Tâl ac Absenoldeb ar gyfer Rhieni â Baban Cynamserol/Baban yn yr Ysbyty
Rydym yn falch iawn o gynnig cymorth yn y gweithle i rieni sydd â babanod cynamserol a babanod sâl. Pan fydd baban yn cael ei eni'n gynnar, neu'n cael ei dderbyn i'r ysbyty yn syth ar ôl cael ei eni, gall fod yn adeg anodd i rieni. Er mwyn eich cefnogi, mae'n bosibl y gallwn gynnig absenoldeb ychwanegol â thâl ar ôl genedigaeth plentyn y mae angen iddo aros am gyfnod estynedig yn yr ysbyty.
Mae'r cynllun hwn yn berthnasol i'n holl weithwyr ac eithrio staff ysgolion a reolir yn lleol, y bydd y polisi a fabwysiadwyd gan eu hysgolion priodol yn berthnasol iddynt.
Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid:
- Eich bod wedi eich cyflogi'n ddi-dor am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i'r baban gael ei eni, neu yn achos mabwysiadu, erbyn diwedd yr wythnos pryd y rhoddir gwybod i'r mabwysiadwr ei fod yn cael ei baru â phlentyn. Yr wythnos gymhwysol yw'r wythnos, gan ddechrau ar y dydd Sul, y rhoddwyd gwybod i'r mabwysiadwr ei fod wedi cael ei baru â'r plentyn, a chan ddod i ben y dydd Sadwrn canlynol.
- Bod eich enillion wythnosol cyfartalog yn yr 8 wythnos ar ddiwedd yr wythnos gymhwysol yn cyfateb i'r terfyn enillion is h.y. y terfyn enillion is ar gyfer plentyn sy'n cael ei baru fydd £118 yr wythnos.
Os caiff eich baban ei eni cyn 37 wythnos y beichiogrwydd, mae'n bosibl y bydd hawl gennych i gael wythnos ychwanegol o Absenoldeb Baban Cynamserol a Thâl Baban Cynamserol am bob wythnos y mae eich baban yn aros yn yr ysbyty tan ddyddiad disgwyliedig gwreiddiol eich baban.
Absenoldeb Baban Cynamserol - Bydd yr hawl i gael yr absenoldeb hwn yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd cyfnod mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth, ar ôl i'r hawl i'r absenoldeb hwnnw ddod i ben.
Tâl Baban Cynamserol - Gallwch ddewis derbyn tâl baban cynamserol fel a ganlyn:
- Yn ystod y cyfnod Absenoldeb Baban Cynamserol; neu
- Fel cyfandaliad ar ddechrau eich cyfnod o absenoldeb
Bydd eich hawl arferol i dâl mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth yn parhau i fod yn berthnasol ac ni fydd y cynllun hwn yn effeithio arno.
Os caiff eich baban ei dderbyn i'r ysbyty yn syth ar ôl genedigaeth tymor llawn (ar ôl 38 wythnos a mwy), efallai y bydd gennych hawl i gael absenoldeb a thâl baban tymor llawn sydd yn yr ysbyty am gyfnod o hyd at 4 wythnos.
Absenoldeb Baban yn yr Ysbyty - Bydd yr hawl i gael yr absenoldeb hwn yn cael ei ychwanegu ar ddiwedd cyfnod mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth, ar ôl i'r hawl i'r absenoldeb hwnnw ddod i ben.
Tâl Baban yn yr Ysbyty - Gallwch ddewis derbyn tâl baban yn yr ysbyty fel a ganlyn:
- Yn ystod y cyfnod Absenoldeb Baban Cynamserol; neu
- Fel cyfandaliad ar ddechrau eich cyfnod o absenoldeb
Bydd eich hawl arferol i dâl mamolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhieni ar y cyd, cymorth mamolaeth neu dadolaeth yn parhau i fod yn berthnasol ac ni fydd y cynllun hwn yn effeithio arno.
Defnyddiwch y ddolen gyswllt a atodir i weld y ffurflen gais
Gall y tîm absenoldeb bostio ffurflen ar gais (01267 246156/6169)
Gofynnir am y ddogfennaeth ganlynol i gefnogi cais:
- Ffurflen gais wedi'i hanfon at y Tîm Absenoldeb
- Copi o dystysgrif MATB1 - genedigaeth yn yr ysbyty
- Copi o dystysgrif geni - genedigaeth gynnar
Dylid anfon ffurflenni cais drwy'r post neu e-bost ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth ategol angenrheidiol at y tîm absenoldeb.
Cyfeiriad post: Adeilad 4, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin, SA31 3HB
E-bost: TimAbsenoldebAdnoddauDynol@sirgar.gov.uk
Bydd eich cais yn cael ei brosesu gan y tîm absenoldeb ac anfonir neges e-bost i gadarnhau dyddiadau eich cais am dâl ac absenoldeb.
Gofynnwn yn garedig i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl o ran dyddiadau rhyddhau neu unrhyw newidiadau a allai effeithio ar yr absenoldeb a'r tâl a dderbynnir.
Diweddarwyd y dudalen: 07/04/2020 21:53:32