Canllawiau Trawsrywedd
Rydym ni (Cyngor Sir Caerfyrddin) yn gyfrifol am ddarparu ystod amrywiol o wasanaethau i'r gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydym yn eu cyflogi ac ar ddefnyddio'u safbwyntiau a'u profiadau gwahanol.
Drwy ddenu, recriwtio a datblygu pobl o'r gronfa dalent ehangaf bosibl gallwn ddatblygu gwell dealltwriaeth o anghenion ein cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein llwyddiant.
Rydym i gyd yn wahanol. Mae ein cefndiroedd, ein profiadau a'n safbwyntiau gwahanol yn golygu ein bod yn meddwl am faterion mewn ffyrdd gwahanol ac yn gallu nodi atebion a chyfleoedd newydd i wella. Mae'r sgiliau hyn yn bwysig i bob un ohonom fel y gallwn ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd.
Mae cyfoeth o waith ymchwil yn dangos bod gweithleoedd sy'n fwy cynhwysol yn fwy cynhyrchiol.
Os oes rhwystrau'n bodoli o ran recriwtio a chadw staff traws, gallem golli'r cyfle i fanteisio ar y potensial hwn. [1] Rydym yn gwybod bod pobl draws yn aml yn gadael eu swyddi cyn trawsnewid a'u bod yn aml yn cael swyddi â chyflog is pan fyddant yn dychwelyd i'r gweithle. Yn aml, mae hyn yn digwydd oherwydd eu bod yn dychmygu'r gwahaniaethu posibl y byddant yn ei wynebu os byddant yn aros yn eu gweithle. Gall hyn arwain at golli arbenigedd a buddsoddiad. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gweithiwr yn cael ei drin yn deg ac â pharch ym mhob cam o gyflogaeth gan gynnwys y broses recriwtio.
Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u llunio i gefnogi ein cyflogeion a’n rheolwyr i ddeall y profiad a’r broses o drawsnewid, a’r rhwystrau posibl a allai atal person trawsryweddol rhag cyflawni ei botensial yn y gweithle. Mae'n darparu canllawiau defnyddiol ynghylch cefnogi ymgeiswyr a gweithwyr traws, gan greu amgylchedd gwaith cynhwysol, a'r cymorth y gall person traws ei ddisgwyl.
Dyma amcanion penodol y canllawiau hyn:
- Sicrhau bod pobl ac unigolion traws sy'n mynd drwy'r broses drawsnewid neu sydd wedi trawsnewid yn cael eu trin â thegwch ac yn cael cefnogaeth yn ystod y broses recriwtio a'u cyflogaeth;
- Rhoi canllawiau i'r holl weithwyr a rheolwyr ynghylch yr amddiffyniadau statudol ar gyfer pobl draws sy'n mynd drwy'r broses drawsnewid;
- Rhoi manylion ynghylch y weithdrefn briodol i'w dilyn pan fydd pobl draws yn gwneud cais i weithio gyda ni ar ôl trawsnewid, neu'n nodi eu bod ar fin trawsnewid tra ein bod yn eu cyflogi;
- Darparu manylion ynghylch pa gymorth y dylai ein rheolwyr ei roi i weithwyr sy'n trawsnewid.
Mae'r canllawiau hyn yn cwmpasu pob gweithiwr, gan gynnwys athrawon a gyflogir yn ganolog, ac eithrio staff mewn ysgolion a reolir yn lleol, y mae canllawiau ar wahân yn berthnasol ar eu cyfer. Yn absenoldeb canllawiau y cytunwyd arnynt yn lleol gan ysgolion unigol, dylid dilyn egwyddorion y canllawiau hyn. Canllawiau Trasrywedd.
Diweddarwyd y dudalen: 30/03/2021 13:10:21