Rhannu Swydd

Diweddarwyd y dudalen: 31/05/2023

Rydym yn gwbl ymroddedig i gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth. Nod Rhannu Swyddi yw darparu cyfleoedd i chi os oes well gennych weithio llai o oriau neu os ydych yn methu â gweithio'n llawn amser i gael a chynnal gyrfa gyda ni; a gwella'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg ar bob lefel o fewn ein sefydliad.

Gall rhannu swyddi gynnig atebion cadarnhaol i bawb gan fod modd cadw sgiliau a phrofiad ac ychwanegu atynt, yn hytrach na'u colli neu wneud defnydd annigonol ohonynt. Rydym yn cefnogi ystod o drefniadau gweithio hyblyg parhaol a thros dro, i'ch galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol. Un o'r trefniadau hyn yw rhannu swyddi.

Rydym wedi diffinio rhannu swydd fel dull o weithio lle mae dau berson yn rhannu swydd ‘gyfan’ neu 'amser llawn' sy'n cynnwys o leiaf 30 awr yr wythnos. Mae rhannu swydd yn golygu bod modd gweithio wythnos lawn, ac mae'n caniatáu trefniadau gweithio hyblyg mewn swyddi nad ydynt yn addas i'w cyflawni'n rhan amser.

Dylid nodi nad oes rhwymedigaeth arnoch i gychwyn ar drefniant rhannu swydd heb ichi gytuno i hynny ymlaen llaw.

Gellir cyflwyno rhannu swydd mewn sawl ffordd:

  • Gallwch wneud cais ffurfiol am rannu eich swydd bresennol trwy'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg;
  • Gallwch wneud cais ar y cyd â gweithiwr presennol fel uned i rannu swydd trwy'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg;
  • Ymgeisydd mewnol/allanol yn gofyn am ystyried eu cais am swydd wag ar sail rhannu swydd, trwy'r gweithdrefnau recriwtio a dethol;
  • Cyflwyno dau gais neu fwy ar wahân, boed hynny'n fewnol neu'n allanol, y gellir eu cyfuno i greu uned rhannu swydd.

Gallwch gyflwyno cais i'ch rheolwr llinell am ystyried eich swydd bresennol ar gyfer rhannu swydd, gan ddefnyddio'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg.

Os cytunir ar y cynnig mewn egwyddor, bydd y broses o recriwtio partner rhannu swydd yn cychwyn yn unol â'n Polisi a Gweithdrefn Recriwtio a Dethol.

Byddwch yn parhau i weithio'ch oriau llawn amser, yn unol â'ch contract cyflogaeth presennol, hyd nes bod partner rhannu swydd wedi cael ei recriwtio a bod y ddau bartner wedi cytuno ar y dull o rannu'r swydd.

Os bydd y gyfran o'r swydd sydd i'w rhannu yn dal yn wag ar ôl hysbysebu ddwywaith am bartner rhannu swydd, byddwch yn parhau i weithio'ch oriau amser llawn, a chynhelir trafodaethau pellach ynghylch dichonoldeb rhannu swydd. Gall fod angen ystyried dewisiadau gweithio hyblyg eraill ar yr adeg hon, e.e. gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn lle 5.

Fel arall, gall dau weithiwr presennol fynd at eu rheolw(y)r i gynnig partneriaeth rhannu swydd ar gyfer un o'r swyddi maent yn eu llenwi ar hyn o bryd, i'w ystyried yn unol â'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg.

Lle bo deiliaid y swyddi'n llanw swyddi ar yr un radd ar hyn o bryd, ac mae'r ddau bartner yn bodloni gofynion hanfodol manyleb person y swydd y maent yn cynnig ei rhannu, gall y rheolwr ystyried derbyn y cynnig i rannu swydd am gyfnod prawf o hyd at 12 wythnos, cyn ei gadarnhau yn barhaol.

Gall fod amgylchiadau lle mae dau ddeilydd swydd presennol ar raddau gwahanol, sydd â setiau gwahanol o sgiliau, yn cyflwyno cynnig rhannu swydd i'w rheolw(y)r. O dan yr amgylchiadau hyn mae'n amhriodol paru a phrofi'r partneriaid, a dylid dilyn gweithdrefnau recriwtio a dethol arferol i chwilio am bartner rhannu swydd addas ar gyfer yr unigolion dan sylw.

Pan fo swydd amser llawn neu gyfran o swydd a rennir yn dod yn wag, bydd y weithdrefn recriwtio ganlynol yn berthnasol:

  • Bydd yr holl hysbysebion recriwtio ar gyfer swydd amser llawn/cyfran o swydd a rennir, yn fewnol ac yn allanol, yn cynnwys datganiad cyffredinol yn nodi bod y swydd ar gael i'w rhannu (oni chytunwyd ar eithriad).
  • Bydd y Polisi Rhannu Swyddi ar gael i ymgeiswyr ei ddarllen ar dudalen 'Swyddi a Gyrfaoedd' y Wefan Gorfforaethol.

Wrth lunio rhestr fer a gwneud penodiad, dilynir darpariaethau'r Polisi Recriwtio a Dethol ar hyd yr amser.

Bydd pob ymgeisydd sy'n gwneud cais am swydd gyda'r bwriad o'i rhannu (gyda neu heb bartner) yn cael cyfweliad, ac yn cael ei asesu'n unigol a'i ddethol ar sail teilyngdod ac addasrwydd ar gyfer y swydd yn unig, a hynny yn erbyn y meini prawf dethol.

Lle dewisir ymgeisydd sydd am rannu swydd, dylid cynnig gweddill y swydd, ar sail rhannu swydd, i'r ymgeiswyr eraill, gan gadw'n fanwl at drefn eu haddasrwydd ar gyfer y swydd, p'un a oedd eu cais gwreiddiol yn nodi eu bod am rannu swydd neu beidio.

Os na fydd ymgeiswyr addas yn derbyn y swydd ar sail ei rhannu, dylid hysbysebu'r swydd eto, ar sail rhannu swydd.

Tra bod partner rhannu swydd arall yn cael ei geisio, dylai'r rheolwr ystyried pa drefniadau dros dro y gellir eu gwneud ar gyfer yr oriau sy'n weddill, er enghraifft, cyflawni dyletswyddau uwch, cyflenwi dros dro, ac ati. Fel arall, gellir gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio oriau ychwanegol hyd at amser llawn dros dro; ond ni fydd yn ofynnol iddo/iddi wneud hynny.

Os na cheir hyd i bartner addas ar ôl cyfnod rhesymol o amser (heb fod yn llai na thri mis, a heb fod yn fwy na chwe mis), bydd y weithdrefn ganlynol yn berthnasol:

  • Cynigir y swydd ar sail amser llawn i'r ymgeisydd llwyddiannus a benodwyd ar sail rhannu swydd; neu
  • Os nad yw'r gweithiwr yn dymuno derbyn y swydd ar sail amser llawn, gall ef/hi gynnig trefniant gweithio hyblyg arall i'r rheolwr ei ystyried, e.e. gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn lle 5.

Os na fydd y rheolwr a/neu'r gweithiwr yn barnu bod y naill na'r llall o'r dewisiadau uchod yn ddichonadwy, wedi trafod gydag Ymgynghorydd AD, bydd y canlynol yn berthnasol:

  • Archwilio adleoli i swydd arall a rennir sy'n wag neu swydd ran amser, yn unol â'r polisi a'r weithdrefn Adleoli; neu
  • Unwaith bydd y dewisiadau uchod wedi cael eu harchwilio'n llawn, terfynir penodiad y gweithiwr sy'n weddill sy'n rhannu'r swydd, gan roi rhybudd dyladwy.

Unwaith cafwyd hyd i bartner(iaid) rhannu swydd addas trwy gyfweliad, a phenderfynwyd cynnig y swydd(i), gwneir cynigion penodi ffurfiol yn amodol ar gytuno ar y trefniadau gwaith, rhwng y rheolwr llinell a'r partneriaid rhannu swydd.

Os na ellir dod i gytundeb ffurfiol ynghylch manylion rhannu'r swydd unigol, ni chadarnheir y penodiad, a rhaid ail-hysbysebu'r swydd(i).

Os bydd un person sy'n rhannu swydd yn ymadael, bydd y rhan sy'n wag o'r swydd a rennir yn cael ei hadolygu gan reolwr y gyllideb, ac yn amodol ar anghenion cyflwyno'r gwasanaeth, y sefyllfa gyllidebol ac ati, gellir cynnig y gyfran sy'n weddill o'r swydd i'r partner arall.

Os nad yw'r partner sy'n weddill yn dymuno gweithio'r oriau llawn, bydd y rhan o'r swydd a rennir sy'n wag yn cael ei hail-hysbysebu fel swydd a rennir, yn unol â'r broses arferol ar gyfer cymeradwyo swyddi gwag a'r Polisi Recriwtio a Dethol.

Bydd yr holl delerau ac amodau cyflogaeth yn cael eu cymhwyso'n gyson yn yr un modd ag yn achos gweithiwr amser llawn, gyda thaliadau, lwfansau a gwyliau pro rata i nifer yr oriau a weithir. 

Cynhwysir nodweddion penodol, lle maent yn wahanol, yn y Datganiad Manylion:

  • Bydd pob partner rhannu swydd yn derbyn datganiad manylion unigol.
  • Nodir oriau'r contract yn unigol ar gyfer y ddau unigolyn sy'n rhannu'r swydd. Ni chaiff cyfanswm yr oriau a weithir fod yn fwy na rhai'r swydd amser llawn - rhaid iddynt fod yn gyfartal. Bydd y disgrifiad swydd a'r manyleb person yr un fath ag ar gyfer y swydd amser llawn.

Bydd pob gweithiwr newydd yn gorfod cwblhau cyfnod prawf yn foddhaol, yn unol â'n Polisi Cyfnodau Prawf, a chaiff ei asesu yn yr un modd â gweithiwr amser llawn.

Cyfrifir y cyflog ar sail pro-rata, yn unol â'r radd a nifer yr oriau a weithir. Pennir y cyflog cychwynnol ar sail unigol, yn unol â'n Canllawiau Cyflogau Recriwtio. Gall partneriaid rhannu swydd fod ar bwyntiau cyflog gwahanol oddi mewn i'r un radd, ar sail meini prawf gwrthrychol a amlinellir yn y canllawiau hyn.

Bydd symud i fyny'r cynyddrannau yn unol â'r amodau sy'n berthnasol i weithwyr amser llawn. Gellir gosod unigolion sy'n rhannu swyddi ar wahanol bwyntiau cynyddran wrth gychwyn. Bydd eich tîm AD yn eich cynghori o dan yr amgylchiadau hyn.

Ni fyddai disgwyl fel arfer i’r unigolion sy'n rhannu'r swydd weithio y tu hwnt i oriau'r contract.  Fodd bynnag, os ceir cais awdurdodedig i wneud hynny, e.e. yn ystod absenoldeb salwch eu partner rhannu swydd, telir am unrhyw oriau ychwanegol ar y gyfradd arferol yr awr (heb ychwanegiadau).

Os bydd gofyn i weithiwr sy'n rhannu swydd weithio oriau ychwanegol dros ben yr wythnos waith 37 awr, neu'r tu hwnt i'r patrwm gweithio contractiol sydd â chyfartaledd o wythnos waith 37 awr (e.e. rota/oriau blynyddol), bydd y gyfradd goramser berthnasol yr awr yn daladwy. 

Os byddwch yn gofyn am TOIL, mae'n bosibl y bydd eich Rheolwr yn cytuno ar hyn, ar sail yr union oriau a weithiwyd.

Lle bo bod wrth gefn a galw allan yn rhan o ofynion y swydd, dylid rhannu hynny rhwng y partneriaid rhannu swydd ar sail rota. Telir ar y gyfradd gyffredinol, yn unol â'r rota wrth gefn y cytunwyd arni a'r galwadau unigol allan. Gall partneriaid Rhannu Swydd gytuno i gyfnewid neu newid eu rotâu wrth gefn/galw allan gyda'i gilydd, ond rhaid iddynt roi gwybod i'w rheolwr/i'r Llinell Gofal am unrhyw newidiadau o'r fath.

Bydd yr hawl i wyliau ar sail pro-rata i'r oriau a weithiwyd, ac yn cael ei chyfrifo'n unol â'n Polisi Gwyliau Blynyddol a Thâl Gwyliau.

Rhennir yr hawl i wyliau cyhoeddus/gwyliau banc rhwng y partneriaid rhannu swydd ar sail pro-rata. Os bydd gŵyl banc yn syrthio ar ddiwrnod gwaith, tynnir yr oriau hynny o'r hawl i wyliau banc.

Lle rhennir swydd trwy rannu'r wythnos, mae'n debygol y bydd un partner rhannu swydd yn elwa o fwy o wyliau banc nag y mae ganddo/ganddi hawl iddynt. Rhaid tynnu unrhyw ddiffyg o ran yr hawl i wyliau cyhoeddus/gwyliau banc o'r hawl i dderbyn gwyliau blynyddol, neu weithio oriau ychwanegol i sicrhau cydbwysedd yn yr oriau.

Gellir trefnu'r gwyliau cyhoeddus/gwyliau banc dros ben ar adegau eraill o flwyddyn wyliau'r gweithiwr, yn yr un modd â gwyliau blynyddol.

Os ydych yn rhannu swydd, bydd hawl gennych dderbyn absenoldeb mamolaeth a/neu dâl mamolaeth, yn unol â Rheoliadau Tâl Mamolaeth Statudol a'r Polisi Mamolaeth.

Bydd hawl gan weithwyr sy'n rhannu swydd i ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu aros ynddo. Fodd bynnag, dylai gweithwyr sy'n rhannu swydd fod yn ymwybodol bod gweithio llai o oriau'n effeithio ar y buddion pensiwn.

Os ydych yn gweithio llawn amser ac yn dymuno rhannu swydd dylech geisio cyngor gan Gronfa Bensiwn Dyfed neu'r Cynllun Pensiynau Athrawon cyn cychwyn ar drefniant gwaith rhannu swydd, fel bod modd sicrhau eglurhad ar effaith hynny ar eich buddion pensiwn.

Bydd ceisiadau am absenoldeb arbennig, fel y'u nodwyd yn ein Polisi Amser o'r Gwaith, yn cael eu hystyried yn yr un modd â gweithwyr amser llawn, ac fe'u caniateir pro-rata i'r oriau a weithiwyd.

Pan na fydd un partner mewn swydd a rennir yn y gwaith oherwydd salwch, absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb arall, gellir gofyn i'r person arall sy'n rhannu'r swydd weithio oriau ychwanegol hyd at oriau amser llawn y swydd (yn amodol ar awdurdodi hynny), ond heb fod yn fwy na hynny. Pan fo un partner ar wyliau blynyddol, ni fyddai'r person arall sy'n rhannu'r swydd fel arfer yn cael cais i weithio oriau ychwanegol, oni bai bod hynny'n hanfodol i gynnal y gwasanaeth a gyflwynir.

Nid yw'r sawl sy'n rhannu'r swydd o dan unrhyw rwymedigaeth i ymgymryd â'r oriau ychwanegol hyn.

Lle bo angen i weithwyr sy'n rhannu swydd deithio yng nghyswllt eu gwaith er mwyn cyflawni cyfrifoldebau'r swydd, ad-delir eu costau teithio a chynhaliaeth yn unol â'n Polisi Teithio a Chynhaliaeth ar gyfer teithiau awdurdodedig a gyflawnwyd gan bob partner rhannu swydd.

Bydd gan bartneriaid rhannu swydd amcanion ar y cyd o ran gofynion y rôl, ond byddant yn derbyn arfarniadau perfformiad Helpu Pobl i Berfformio unigol. Bydd hyn yn canolbwyntio ar gyfraniad personol i'r amcanion, yn ogystal ag archwilio anghenion datblygiad personol a pherfformiad.

Bydd gweithwyr sy'n rhannu swydd yn gallu cyrchu hyfforddiant ac absenoldeb astudio ar yr un sail â gweithwyr amser llawn pro-rata.

Gall partneriaid rhannu swydd wneud cais am ddyrchafiad yn unigol neu ar y cyd. Lle cyflwynir cais ar y cyd byddant yn cael eu cyfweld ar wahân, ac os ydynt i gael eu penodi, mae'n rhaid i'r ddau ohonynt yn unigol fodloni gofynion y swydd.

Yn amodol ar y darpariaethau a nodwyd yn ein Côd Ymddygiad Gweithwyr, ni chaiff gweithwyr rhannu swydd eu hatal gan eu contractau cyflogaeth rhag derbyn cyflogaeth arall y tu allan i'w horiau contractiol arferol.

Fodd bynnag, o dan ein Côd Ymddygiad Gweithwyr mae gofyniad cyffredinol ar bob gweithiwr i beidio ag ymgymryd â gwaith ychwanegol a allai wrthdaro â'n buddiannau neu gael effaith niweidiol ar weithio gyda ni.  Fe'ch cynghorir, felly, i roi sylw arbennig i Adrannau 8 a 9 o'r Côd Ymddygiad yn y cyswllt hwn.  Os byddwch yn amau, gofynnwch am gyngor gan eich rheolwr llinell cyn ymgymryd â chyflogaeth arall.

Nid yw gweithio mewn partneriaeth rhannu swydd yn eich atal chi rhag bod yn rhan o'r cynllun oriau hyblyg. Dylid ystyried hyn fel rhan o'r weithdrefn gwneud cais, a'i gytuno gan y Rheolwr Llinell os yw'n ymarferol bosibl o safbwynt gweithredol.

Bydd angen i gontract cyflogaeth y gweithiwr sy'n rhannu swydd gynnwys cymal sy'n nodi, os na fydd yr awdurdod yn llwyddo i recriwtio person cymwys i lenwi'r gyfran o'r swydd a rennir sy'n wag, ac os yw deilydd presennol y swydd a rennir yn amharod neu'n analluog i weithio'n llawn amser, rydym yn cadw'r hawl i derfynu ei g/chyflogaeth o dan y Cynllun trwy roi'r cyfnod priodol o rybudd, fel y pennir yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Ni fyddai'r cyfryw gamau'n cael eu cymryd ond wedi ymgynghori â'r gweithiwr presennol sy'n rhannu'r swydd a'i G/Chynrychiolydd Undeb Llafur, petai ef/hi yn dymuno, ynghylch yr amrywiol ddewisiadau sydd ar gael ar y pryd.

Llwythwch mwy

Adnoddau Dynol