Datgelu Camarfer

Diweddarwyd y dudalen: 20/06/2023

Ni fydd y rhan fwyaf o weithwyr byth yn gorfod wynebu'r penderfyniad anodd o ran datgelu neu roi gwybod am gamarfer difrifol yn y gwaith, ond os cewch eich hunan mewn sefyllfa o'r fath, dylech fod yn ymwybodol fod gan y Cyngor weithdrefnau i'ch diogelu. Â dweud y gwir, mae'r gweithdrefnau'n ofynnol yn ôl Deddf Datgelu er Budd y Cyhoedd 1998.

Beth yw Datgelu Camarfer?

Datgelu Camarfer yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio datgeliad gan weithiwr, h.y. gweithwyr cyflogedig, gweithwyr achlysurol, staff asiantaeth, contractwyr neu wirfoddolwyr, o gamymddygiad ynghyd â gweithredoedd anghyfreithlon neu esgeuluso yn y gwaith.

Beth yw agwedd y Cyngor at gamymddygiad yn y gweithle?

Nod y Polisi Datgelu Camarfer yw rhoi sylw i bryderon nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan weithdrefnau cy ogaeth eraill ac sy’n faterion budd y cyhoedd. Er enghraifft, os oes gennych achwyniad ynghylch eich cy ogaeth, dylech ddefnyddio Gweithdrefn Achwyniadau'r Cyngor. Os ydych yn pryderu am fwlio neu a onyddu yn y gwaith dylech ddefnyddio’r Weithdrefn Urddas yn y Gweithle sydd gan y Cyngor.

Fe’ch anogir chi i ddatgelu camarfer os credwch fod camymddygiad wedi digwydd yn unrhyw rai o’r meysydd canlynol:

  • Troseddau
  • Mynd yn groes i rwymedigaethau cyfreithiol
  • Camweinyddu cy awnder
  • Peryglu iechyd a diogelwch unigolyn
  • Niweidio’r amgylchedd
  • Ymdrech bwriadol i gelu gwybodaeth am unrhyw un o’r enghreifftiau uchod.

Dylech ddarllen y Polisi hwn ar y cyd â'r Côd Ymddygiad ar gyfer Swyddogion, ynghyd ag unrhyw weithdrefnau adrannol ar gyfer ymchwilio i bryderon.

Sut y byddaf yn cael fy niogelu os byddaf yn "datgelu camarfer"?

Mae'r Polisi Datgelu Camarfer yn fodd i chi leisio eich pryderon yn gyfrinachol a heb ofni unrhyw erledigaeth, camwahaniaethu nac anfantais yn sgil hynny.

Pam y dylwn Ddatgelu Camarfer?

Rydym yn ystyried pob achos o gamarfer o fewn y Cyngor yn fater difrifol iawn, ac os oes gennych bryderon difrifol am unrhyw agwedd ar waith y Cyngor, fe'ch anogir i leisio'r pryderon hynny, yn wir, mae disgwyl i chi wneud.

Rhoddir sylw i chi'n syth ac mewn modd priodol. Drwy ddatgelu camarfer gallech ddiogelu eich cydweithwyr, y cyhoedd, ac eraill, ac ar yr un pryd, sicrhau bod y Cyngor yn ymwybodol o'r broblem ac yn gallu delio â hi.

 phwy y gallaf gysylltu os oes gennyf bryder difrifol?

Ni ddylech gyhuddo neb na siarad ag unigolion yn uniongyrchol, na cheisio ymchwilio i'r mater eich hun. Dylech godi eich pryderon gyda Swyddog Datgelu Camarfer neu gydag enwau cyswllt eraill a nodir yn y Polisi.

A oes modd i mi leisio fy mhryder yn ddienw?

Cewch fynegi eich pryderon yn ddienw ond maent yn llai grymus a chânt eu hystyried yn ôl disgresiwn y Swyddog Monitro.

Cofiwch fod y Polisi Datgelu Camarfer yno i’ch diogelu ac i’ch helpu i fynegi eich pryderon yn hyderus.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi leisio fy mhryderon?

Rhoddir cymaint o adborth â phosibl i chi ynghylch sut yr ymdrinnir â'r mater, a hynny fel arfer gan y sawl y bu i chi leisio eich pryder iddo/iddi. Mae hyn yn amodol ar ddiogelu data a chyfrinachedd.

Beth sy'n digwydd os byddaf yn dal yn anfodlon ar ymateb y Cyngor?

Bwriad y polisi hwn yw rhoi modd i chi leisio eich pryderon o fewn y Cyngor, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn fodlon ar y ffordd y byddwn yn ymdrin â'r mater. Fodd bynnag, os na fyddwch yn fodlon mae croeso i chi gysylltu â Phrif Weithredwr y Cyngor, neu â Chadeirydd Annibynnol y Pwyllgor Safonau, neu â'r mannau cyswllt allanol a nodir yn y Polisi.

Mae'r Polisi Datgelu Camarfer yn cydnabod y ddyletswydd sydd ar y Cyngor i roi cymorth i weithwyr sydd yn eu cael eu hunain yn yr amgylchiadau anodd hyn. Mae cymorth arall ar gael ar ffurf y Polisi Urddas yn y Gweithle, y Polisi Achwyniadau a’r Polisi Straen, neu'r Gwasanaethau Cwnsela drwy'r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol.

Adnoddau Dynol