Amgylchedd

Adran yr Amgylchedd
Rydym yn gyfrifol am:
- y gwasanaethau cynllunio
- cymorth busnes
- datblygiad a pherfformiad
- eiddo
- gwasanaethau amgylcheddol a gwastraff
- trafnidiaeth a pheirianneg

Digwyddiadau a Newyddion Diweddaraf i'r Staff
Darllenwch y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am ddigwyddiadau yma. Os hoffech inni gynnwys stori newyddion neu digwyddiad sydd gennych anfonwch e-bost atom at Kellythomas@sirgar.gov.uk
Byddwn yn parhau i ddosbarthu ein llythyr newyddion chwarterol i staff i bob un ohonoch drwy e-bost a phost.

Yr Iaith Gymraeg
Mae eich Arweinyddion a'ch Mentoriaid dros yr Iaith Gymraeg yma i'ch helpu i ddatblygu eich Sgiliau Cymraeg, ac i sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion Safonau'r Gymraeg a Hyrwyddo'r Iaith Gymraeg yn y gwaith! Am fanylion ynghylch y digwyddiad nesaf, cadwch lygad ar ein tudalen newyddion i'r staff a digwyddiadau.

Iechyd a Llesiant
Rydym yn ffodus iawn o gael Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant ardderchog yn gweithio yn ein hadran. Maent yn angerddol dros Iechyd a Llesiant yr holl staff. Maent yn ymdrechu i sicrhau bod yna mwy o weithgareddau Iechyd a Llesiant yn cael eu cynnal ledled ein gweithlu nag a welwyd erioed o'r blaen. Am y newyddion diweddaraf, cadwch lygad ar ein tudalen newyddion i'r staff a digwyddiadau a thudalen gweithgareddau/grwpiau.
Diweddarwyd y dudalen: 04/11/2020 13:42:48