Brechlyn Coronafeirws
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Frechu ym mis Ionawr 2021. Rhagor o wybodaeth am raglen frechu COVID-19 a sut y mae'r Cyngor yn cefnogi'r rhaglen..
Diweddariadau Brechlyn Mawrth:
Mawrth 30 - BIP Hywel Dda yn annog pobl i fwcio ail apwyntiad brechlyn Pfizer
3ydd Mawrth -Ail frechlyn Covid-19 i’w ddarparu mewn Canolfannau Brechu Torfol
Diweddariadau Brechlyn Chwefror:
18fed Chwefror -Ail ddos Covid-19
Diweddariadau Brechlyn Ionawr:
Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael y brechlyn drwy fynd i icc.gig.cymru
Os gofynnir i chi fynd i apwyntiad brechu ewch i icc.gig.cymru i gael yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn rhannu diweddariadau wythnosol mewn perthynas â chyflwyno Rhaglen Brechu Torfol Covid-19. Mae'r diweddariad wythnosol hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a phartneriaid eraill i ddarparu'r rhaglen frechu leol. Mae gennym rôl bwysig o ran darparu gwirfoddolwyr i helpu i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflawni'n ddidrafferth. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, siaradwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf.
Fel cyflogwr ni allwn eich gorfodi i gael brechlyn Covid-19. Fodd bynnag, rydym yn cefnogi'r rhaglen frechu ac yn eich annog yn gryf i fanteisio ar y cynnig, yn enwedig os ydych yn gweithio mewn rôl sy'n wynebu cleifion / cleientiaid.
Er mwyn cynorthwyo ein gweithlu, a lle cynhelir apwyntiadau yn ystod eich oriau gwaith arferol, rydym yn caniatáu i weithwyr gael amser o'r gwaith yn ystod 2021 i fynychu apwyntiadau brechu COVID-19.
Dylai gweithwyr gael cymeradwyaeth gan eu rheolwr llinell cyn cael amser o'r gwaith i fynychu apwyntiad brechu COVID-19. Dylent roi cymaint o rybudd â phosibl i'w rheolwr llinell yr hoffent gael amser o'r gwaith at y diben hwn.
Gall rheolwyr llinell, yn ôl eu disgresiwn, ofyn i weithwyr ddangos tystiolaeth o'u hapwyntiad (er enghraifft cerdyn apwyntiad neu neges e-bost/testun yn eu gwahodd i apwyntiad brechu COVID-19).
Er mwyn hwyluso hyn, rhoddir amser priodol i ffwrdd gyda thâl i weithwyr sy'n cael apwyntiad brechu yn ystod oriau gwaith.
Ni fydd amser o'r gwaith yn cael ei roi i weithiwr sy'n cael apwyntiad brechu y tu allan i oriau gwaith arferol.
Rhoddir amser o'r gwaith ar gyfer y ddau apwyntiad brechu yn 2021 yn unig.
Mae'n bosibl y bydd rhai pobl yn cael adwaith i'r brechlyn. Os bydd yn rhaid i chi gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd adwaith, bydd yr absenoldeb yn cael ei gofnodi fel salwch ond ni fydd yn cyfrif tuag at unrhyw sbardunau absenoldeb salwch. Ceir rhagor o wybodaeth i Reolwyr mewn perthynas â chofnodi'r math hwn o absenoldeb ar ein tudalennau Absenoldeb Salwch ar y fewnrwyd.
Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin eraill sy'n ymwneud â brechlyn Covid-19 drwy fynd i icc.gig.cymru.
Diweddarwyd y dudalen: 23/03/2021 11:56:41