Canllawiau i staff glanhau
Dylech aros gartref os oes gennych chi naill ai:
- gwres uchel
- peswch parhaus newydd
- blas/arogl wedi diflannu
Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau uchod neu eich bod yn teimlo'n sâl ac yn methu â mynd i'r gwaith, dylech roi gwybod inni dros y ffôn cyn 11am drwy ffonio 07812 484305. Os nad ydych yn cael ateb, a fyddech cystal â chysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at AbsenoldebauGlanhau@sirgar.gov.uk gan nodi manylion llawn y salwch a rhif cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi.
Y wybodaeth ddiweddaraf
Gofynnwn i'r holl staff sydd ar hyn o bryd yn cael gohebiaeth ysgrifenedig gennym i roi cyfeiriad e-bost i ni, fel bod modd i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn gyflym wrth i'r sefyllfa ddatblygu yn ystod yr adeg hon nad ydym wedi gweld ei thebyg o'r blaen.
Mae angen i chi hefyd sicrhau bod gennym rif ffôn cyfredol ar eich cyfer. Gallwch ddarparu'r manylion hyn drwy e-bostio ni neu trwy gysylltu â'r swyddfa ar 01267 246511.
Gweithio mewn adeilad sy'n dal i fod ar agor
Os ydych yn gweithio mewn adeilad sy'n dal i fod ar agor, mae angen i ni sicrhau eich bod chi fel staff a'n hadeiladau yn cael eu hamddiffyn hyd eithaf ein gallu. Gofynnwn i chi flaenoriaethu eich arferion glanhau drwy ddilyn y canllawiau isod:
- Diheintiwch drwy lanhau pob arwyneb sy'n cael ei gyffwrdd yn aml mewn mannau cyffredin (e.e. fordydd, cadeiriau cefn caled, bwlyn drws, switshis golau, handlenni, desgiau, toiledau, sinciau, canllawiau, fframiau drysau).
- Wrth ddiheintio mae angen i chi wisgo menig a ffedogau tafladwy
- Dilynwch y cyfraddau teneuo isod, defnyddiwch y clwtyn lliw cywir, chwistrellwch ar y clwtyn a glanhewch a newidiwch y clytiau'n rheolaidd. Os ydynt ar gael, defnyddiwch glytiau/weips tafladwy
- Cofiwch olchi eich dwylo ar unwaith am o leiaf 20 eiliad gyda dŵr a sebon ar ôl tynnu'r menig.
Canllawiau ynghylch mesurau deunyddiau glanhau
Mae'r holl Staff i lanhau eu hardaloedd dynodedig yn drylwyr, gan lanhau pob arwyneb â'r cynhyrchion a nodir isod ym mhob ysgol ac adeilad.
Clwtyn/mop Opsiwn 1: Defnyddio bwced
- Paratowch, tynnwch y cap oddi ar gynhwysydd 5lt, llenwch y cap â Titan Sanitiser a rhowch 2 lond cap (50g) am bob 1 litr o ddŵr oer neu lugoer (dim dŵr poeth).
- Rhowch y clytiau yn yr hydoddiant
- Gadewch iddynt socian
- Gwasgwch y clwtyn/mop cyn ei ddefnyddio
- Glanhewch/mopiwch arwynebau
- Gadewch iddynt sefyll am 5 munud o leiaf
- Glanhewch a rinsiwch â dŵr poeth ac yna gadewch iddynt sychu yn yr aer
Clwtyn/mop Opsiwn 2: Defnyddio potel chwistrellu sbardun
- Paratowch, tynnwch y cap oddi ar gynhwysydd 5lt, llenwch y cap â Titan Sanitiser a rhowch 2 lond cap (50g) am bob 1 litr o ddŵr oer neu lugoer (dim dŵr poeth)
- Gan wisgo menig, rhowch botel chwistrellu sbardun yn yr hydoddiant a llenwch y botel gan roi'r pen sbardun yn ei ôl.
- Chwistrellwch hydoddiant ar y clwtyn
- Sychwch arwynebau
- Gadewch iddynt sefyll am 5 munud o leiaf
- Glanhewch a rinsiwch â dŵr poeth ac yna gadewch iddynt sychu yn yr aer
Os nad oes Titan Sanitizer ar gael, parhewch i ddefnyddio Ultrafresh neu Antibac, gan ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar gyfer y cynhyrchion hyn. Fel y soniwyd ar ddechrau'r canllawiau, byddwn yn ymweld â chi yn fuan a bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu cyflenwad o Titan i chi a rhoi hyfforddiant i chi ar ddefnyddio'r cynnyrch hwn.
Mae Ultrafresh yn ddeunydd glanhau niwtral ac mae’n addas ar gyfer glanhau’r holl arwynebau caled, gan gynnwys arwynebau caboledig, laminedig, gwydr ac ati.
- 1 x 30ml pwmp pelican ar gyfer chwistrellwr llaw (600/750ml)
- 4 x 30ml pwmp pelican ar gyfer 5ltr o ddŵr mewn bwced
Glanedydd/diheintydd gwrthfacteria ag arogl blodau.
- 2 bwmp pelican ar gyfer chwistrellwr llaw (500ml)
- 10 pwmp pelican ar gyfer bwced
- 10 pwmp pelican ar gyfer 2.5lt (scrubber dryer)
- Sbyngiau coch ar gyfer wrinalau/bowliau toiled
- Clytiau coch ar gyfer mannau eraill y toiled
- Defnyddio clytiau/sbyngiau glas ym mhob man y tu allan i’r toiledau
Diweddarwyd y dudalen: 25/02/2021 17:32:10