Cynllunio adfer gwasanaethau
Os ydych wedi cael rhwydd hynt gan y Grŵp Rheoli Aur - Adfer i ddechrau cynllunio ar gyfer adfer eich gwasanaeth, bydd y dudalen hon yn darparu canllawiau a chymorth ategol sydd eu hangen arnoch i gynllunio'r broses yn effeithiol.
Cyn dechrau'r broses gynllunio ar gyfer y gwaith adfer, sicrhewch fod gennych ganiatâd y Grŵp Rheoli Adfer sy'n ofynnol, drwy siarad â'ch Pennaeth Gwasanaeth/Cyfarwyddwr.
Bwriad y rhestr wirio ganlynol yw sicrhau bod yr holl ffactorau priodol yn cael eu hystyried cyn i'r gwasanaethau gael eu hailddechrau. Defnyddiwch y rhestr i lywio eich gwaith cynllunio. Dylech sicrhau bod eich cynllun a'ch adroddiad adfer yn ymdrin â'r holl feysydd a restrir cyn eu cyflwyno i'r Grŵp Rheoli Arian - Adfer.
Rydym wedi datblygu'r asesiad risg canlynol mewn ymateb i bandemig COVID-19. Mae wedi cael ei ddatblygu i helpu i adfer gwasanaethau yn yr awdurdod.
Yn rhan o'r broses adfer, mae'n ofynnol bod yr holl wasanaethau'n cwblhau eu hasesiad risg eu hunain drwy gwblhau'r templed isod. Gweler yr asesiad risg corfforaethol. Bydd angen i'r asesiad risg gael ei gyflwyno gyda'ch Cynllun Adfer Gwasanaethau pan fyddwch yn eu hanfon at y Grŵp Rheoli Arian - Adfer. Yn ogystal, bydd yr asesiad risg hwn yn ofynnol os byddwch am archebu unrhyw eitemau o'r Pecyn Cymorth Cadw Pellter Cymdeithasol.
Bydd yr asesiad risg yn ofynnol i helpu i ddatblygu arferion gweithio diogel. Dylech gysylltu â'r tîm iechyd a diogelwch i drafod y gofynion.
Pwysig: Ni fyddwch yn gallu archebu eitemau o’n Pecyn Cymorth Cadw Pellter Cymdeithasol heb gwblhau asesiad risg.
Os yw eich gwasanaeth yn cael effaith ar y gymuned, bydd hefyd angen i chi gwblhau Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned.
Mewn perthynas ag unigolion a chymunedau, bydd angen adfer y sefyllfa o ran effeithiau'r pedwar categori cysylltiedig canlynol:
- Iechyd a Lles
- Economaidd
- Seilwaith a'r Amgylchedd
- Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol
Ar ôl ichi gwblhau'r Rhestr Wirio Adfer, Asesiad Risg y Gwasanaeth a'r Asesiad Effaith ar y Gymuned (os yw'n berthnasol), byddwch yn gallu llenwi eich Cynllun Adfer y Gwasanaeth. Yna bydd y ddogfen hon, ynghyd â'ch Asesiad Risg y Gwasanaeth yn cael eu hystyried gan y Grŵp Rheoli Arian - Adfer cyn cael cymeradwyaeth derfynol gan y Grŵp Rheoli Aur - Adfer.
Gyda gwaith cynllunio effeithiol ac ymrwymiad ar y cyd gan adrannau, gallwn sicrhau ein bod yn ymgysylltu â'r bobl gywir, yn y ffordd gywir, ar yr adeg iawn, yn ystod ein hadferiad. Mae'n bwysig bod eich cynigion yn cael eu cyfathrebu i bawb y maent yn effeithio arnynt ac felly bydd angen ichi weithio gyda'r Tîm Marchnata a'r Cyfryngau i ddatblygu cynllun cyfathrebu priodol.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r broses gynllunio i adfer y gwasanaeth a chael cymeradwyaeth i ailddechrau eich gwasanaeth, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich timau ac unigolion yn gwybod beth i’w ddisgwyl a beth a ddisgwylir ganddynt. I’ch helpu, rydym wedi datblygu rhestr wirio 'Dychwelyd eich staff i’r gwaith' y gallwch ei defnyddio i lywio’r trafodaethau y bydd angen ichi eu cael gyda’ch staff.
Rydym hefyd wedi datblygu llyfryn 'Dychwelyd i'r Gweithle' ar gyfer staff fel y gallant ymgyfarwyddo â'r hyn sy'n ofynnol ohonynt
Cydymffurfiaeth eiddo
Mae’r broses o ailagor adeiladau yn cael ei rheoli gan Bennaeth Eiddo. Bydd y dogfennau hyn yn rhoi arweiniad i Reolwyr, Pobl sy’n Gyfrifol am y Safle, a Gofalwyr.
Diweddarwyd y dudalen: 09/07/2020 15:51:21