Diweddariadau Diogelwch Windows
Er mwyn cydymffurfio â'r Rhwydwaith Gwasanaethau Cyhoeddus mae'n ofynnol inni ddiweddaru ein gweithfannau gyda thrwsiadau diogelwch Windows ac Office, sy'n cael eu rhyddhau gan Microsoft ar ail ddydd Mawrth pob mis ("Patch Tuesday" yw'r enw cyffredin arno).
Pryd bydd fy ngweithfan yn cael y diweddariadau hyn?
Er bod trwsiadau yn cael eu rhyddhau ar ail ddydd Mawrth pob mis maen nhw'n cael eu profi wedyn gan TG ac yna caiff detholiad o beiriannau ei brofi ar hap cyn inni gyflwyno'r newidiadau i'r gweithfannau i gyd. O ganlyniad, mae 7 diwrnod o oedi rhwng Patch Tuesday a rhoi'r trwsiadau ar eich gweithfan.
Oes angen imi wneud rhywbeth?
Nac oes, bydd y trwsiadau'n cael eu gosod yn dawel yn y cefndir ar ôl 3pm ar ddiwrnod y diweddaru. Os bydd angen ailgychwyn eich cyfrifiadur rhoddir gwybod ichi, ond eich dewis chi fydd hynny ac os na fyddwch am ailgychwyn bydd y broses drwsio yn gorffen y tro nesaf bydd eich cyfrifiadur yn cau/ailgychwyn.
Os bydd anawsterau gyda pherfformiad eich peiriant ar ôl ichi gael trwsiadau, fe'ch cynghorir i ailgychwyn eich peiriant oherwydd bydd hyn yn datrys y broblem yn aml iawn.
Diweddarwyd y dudalen: 15/05/2020 09:20:49