MS OneDrive ar Ddyfeisiau Symudol
Mae MS OneDrive wedi cael ei awdurdodi i chi ei ddefnyddio, i'ch galluogi i gyrchu a throsglwyddo lluniau gyda'r dyfeisiau llaw Android.
Gallwch ddewis defnyddio MS OneDrive i dynnu lluniau. Bydd y rhain yn arbed yn awtomatig, a byddant yn dod yn hygyrch ar unrhyw ddyfais rydych yn ei defnyddio ac yn mewngofnodi i OneDrive. Mae hyn hefyd yn creu copi wrth gefn petai'r ffôn yn mynd ar goll/cael ei ddifrodi. Mae angen data neu signal Wi-Fi er mwyn i hyn weithio.
Er mwyn defnyddio OneDrive i dynnu a chadw lluniau, dylech gyflawni'r canlynol:
- Agorwch 'OneDrive ' ar eich dyfais symudol
- Cliciwch ar y botwm (+) ar waelod cornel dde'r dudalen (cylch glas)
- Bydd angen i chi lithro ar draws a dewis llun neu ddogfen. Cliciwch i dynnu llun
- Bydd opsiwn naill ai i ddileu (symbol bin) neu gadw'r llun (symbol tic) yn ymddangos
- Pan fyddwch wedi dewis yr opsiwn 'tic', bydd y llun yn cael ei drosglwyddo yn awtomatig i'ch ffolder One Drive
- Rydych yn gallu golygu'r llun a newid y teitl cyn ei gadw
[Yn anffodus, nid yw'r un peth yn wir am fideos, ond mae hyn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.]
Rwy'n ymwybodol bod llawer ohonoch yn ymweld â safleoedd ledled y Sir ac felly gall signal symudol fod yn ysbeidiol iawn. Gallwch dynnu lluniau drwy ddefnyddio'r camera ar y ffôn. Gellir llwytho’r rhain i MS OneDrive pan fyddwch ar safle lle mae signal Wi-Fi neu signal data ar gael. Fe'ch cynghorir i lwytho'r lluniau yn ddyddiol neu'n fwy rheolaidd oherwydd gall nifer fawr o luniau gymryd llawer o amser a defnyddio llawer o ddata ac ni allwn adfer lluniau coll o ddyfeisiau.
Er mwyn trosglwyddo lluniau a dynnwyd gyda chamera'r ddyfais symudol:
- Agorwch 'One Drive ' ar eich dyfais symudol
- Cliciwch ar yr arwydd (+) ar ochr dde uchaf y sgrin (wrth ymyl y chwyddwydr)
- Dewiswch 'Upload’
- Dewiswch lun/lluniau
- Mae'n bosibl y gallai'r lluniau lwytho i OneDrive yn awtomatig yn ystod y cam hwn
Os na fydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Caniatáu OneDrive i gael mynediad i'r lluniau
- Dewiswch y lluniau rydych chi am eu trosglwyddo
- Bydd yn rhaid i chi ddewis y tic ai lwytho'r lluniau
Os na fydd hyn yn llwyddo, bydd angen i chi drosglwyddo'r lluniau yn uniongyrchol o'r ap lluniau:
- Agorwch yr ap lluniau
- Dewiswch luniau i'w llwytho
- Cliciwch ar y llun
- Cliciwch ar yr eicon rhannu
- Dewiswch yr opsiwn 'Switch to Work'
- Dewiswch OneDrive o'r opsiynau
- Dewiswch y ffolder o fewn OneDrive a chadw yn yr adran 'Attachments/Documents' neu greu un ar gyfer lluniau
- Cliciwch ar y symbol tic
Er mwyn trosglwyddo lluniau/dogfennau o negeseuon testun:
- Cliciwch ar y llun/dogfen yn y neges, cliciwch ar y symbol rhannu
- Sgroliwch ar draws yr opsiynau ar y brig nes i chi weld OneDrive
- Dewiswch OneDrive
- Dewiswch y ffolder o fewn OneDrive i gadw'r lluniau sef: ‘Attachments/Documents' neu greu un ar gyfer lluniau
- Cliciwch ar y symbol tic
Er mwyn mewngofnodi i MS OneDrive ar eich gliniadur:
- Os yw'ch dyfais wedi'i huwchraddio i Windows 10, dilynwch y camau isod i gael OneDrive yn weithredol ar eich gliniaduron.
Cliciwch ddwywaith ar yr eicon MS OneDrive i'w agor, mae hwn ar waelod ochr dde'r bar tasgau.
Gofynnir i chi fewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a chyfrinair. Cliciwch ‘next’ dro ar ôl tro hyd nes bod y broses wedi'i chwblhau.
Ewch i 'My Computer/This PC' lle dylai fod ffolder OneDrive ar gael. Gallwch dde-glicio ar y ffolder hon a chreu llwybr byr i'ch bwrdd gwaith neu'ch bar tasgau.
Bydd MS OneDrive nawr yn barod i'w defnyddio.
Efallai y bydd angen i chi hefyd fewnbynnu eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar y ffôn.
- SYLWER: rhaid dileu'r HOLL ddata o'ch cyfrif OneDrive a'ch dyfais symudol ar ôl eu trosglwyddo/storio i Gynllun Ffeiliau'r Cyngor, Info@Work, APP, CIVICA ac ati yn ôl y Polisi Trin Gwybodaeth Bersonol: http://mewnrwyd/ein-pobl/llywodraethu-gwybodaeth/diogelu-data/trin-gwybodaeth-bersonol/
Dim ond o un ddyfais y mae angen i chi ddileu data, bydd hyn yn cael ei ailadrodd i bob dyfais gyda'ch cyfrif OneDrive.
Bydd angen dileu â llaw y lluniau sy'n cael eu tynnu gan ddefnyddio camera'r ffôn a hynny o fewn yr ap lluniau.
- Os yw eich dyfais yn gweithredu ar Windows 7, yna bydd angen ei huwchraddio:
Cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG drwy'r porth hunanwasanaeth, gan nodi bod angen uwchraddio i WIN10. Cofiwch gynnwys y cyfarwyddyd hwn ar yr alwad a nodyn bod angen sicrhau bod MS OneDrive yn weithredol ar eich dyfais er mwyn i chi ei ddefnyddio.
Diweddarwyd y dudalen: 29/07/2020 14:02:17