Ystafelloedd Cyfarfod ar gyfer Sesiynau Hyfforddi
CAM 1: Creu prif gyfarfod yn Outlook a gwahodd yr holl gyfranogwyr
Crëwch ‘Cyfarfod Newydd Teams’ (New Teams Meeting) yn Outlook a gwahodd yr holl gyfranogwyr.
Pwrpas y Brif Ystafell Hyfforddi hon yw cael un lleoliad i'r holl gyfranogwyr ddechrau/gorffen y sesiwn hyfforddi, yn ogystal â dod yn ôl ynghyd ar ôl defnyddio'r Ystafelloedd Cyfarfod.
CAM 2: Creu Cyfarfodydd Ystafelloedd Cyfarfod a dyrannu cyfranogwyr
Crëwch ‘Cyfarfod Newydd Teams’ (New Teams Meeting) yn Outlook ar gyfer pob Ystafell Gyfarfod a gwahodd mynychwyr penodol i Ystafell Gyfarfod a ddynodwyd ar eu cyfer. Yn ogystal, anfonwch wahoddiad at yr hyfforddwr i ganiatáu iddynt allu galw heibio i'r sesiynau ystafell gyfarfod i ddarparu arweiniad yn ôl yr angen.
CAM 3:
Gofyn i gyfranogwyr ymuno â sesiwn ystafell gyfarfod
Bydd yr hyfforddwr yn cyfathrebu pan fydd angen i'r cyfranogwyr ymuno â'r Ystafell Gyfarfod a ddynodwyd ar eu cyfer, a phan fydd angen dychwelyd i'r Brif Ystafell Hyfforddi.
CAM 4: Ymuno ag Ystafell Gyfarfod fel trefnydd
Mae modd i'r hyfforddwr alw heibio i bob sesiwn gyfarfod i weld sut y mae pethau’n mynd a gweld a oes unrhyw gwestiynau trwy glicio ar gyfarfod Ystafell Gyfarfod o’i galendr cyn clicio ar ddolen ‘Ymuno â Chyfarfod Microsoft Teams’ (Join Microsoft Teams Meeting) yr ystafell gyfarfod.
CAM 5: Dod â chyfarfodydd ystafell gyfarfod i ben a gofyn i'r cyfranogwyr ddod yn ôl i'r prif gyfarfod
Mae modd gwahodd y cyfranogwyr yn ôl i'r Brif Ystafell Hyfforddi mewn tair ffordd:
- Mae modd ichi alw heibio i bob un o’r Ystafelloedd Cyfarfod gan ddefnyddio’r ddolen ‘Ymunwch â Chyfarfod Microsoft Teams’ (Join Microsoft Teams Meeting) (fel yr amlinellir yng Ngham 4) a gofyn i’r cyfranogwyr ailymgynnull yn y Brif Ystafell Hyfforddi.
- Anfonwch neges yn sgwrs y cyfarfod (meeting chat) i ofyn i'r holl fynychwyr adael yr Ystafell Gyfarfod ac ymuno â'r Brif Ystafell Hyfforddi.
- Gwahoddwch y cyfranogwyr yn ôl i'r Brif Ystafell Gyfarfod drwy glicio ’Cyfranogwyr’ (Participants), yna cliciwch y 3 dot, cyn clicio ‘Gofyn i Ymuno’ (Ask to Join).
Mae modd hefyd symud cyfranogwyr o'r ystafell os oes angen trwy glicio ar yr eicon Cyfranogwyr (Participants) o fewn ystafell benodol, yna clicio ar y 3 dot, cyn clicio ‘Symud Cyfranogwr’ (Remove Participant).
Diweddarwyd y dudalen: 16/07/2020 13:43:36