Cynnal Cyfarfodydd dros y Cyfrifiadur
Gallwch ddefnyddio eich calendr Outlook i drefnu cyfarfodydd Skype for Business dros y Cyfrifiadur. Gellir trefnu cyfarfodydd gyda chysylltiadau mewnol ac allanol. Gall Cyfarfodydd dros y Cyfrifiadur arbed amser a chostau teithio ac mewn llawer o achosion, gallant fod yr un mor fuddiol â chyfarfod wyneb yn wyneb.
Rydym yn argymell eich bod yn gwylio’r tiwtorial fideo byr hwn gan Microsoft ynghylch sut i gynnal cyfarfod dros y cyfrifiadur.
Sut ydw i'n trefnu cyfarfod Skype for Business?
- Agorwch eich calendr Outlook.
- Cliciwch ar y botwm 'Home' yn y gornel chwith uchaf.
- Cliciwch ar 'New Skype Meeting'.
- Cwblhewch y cais am gyfarfod yn ôl yr arfer gan nodi cyfeiriadau e-bost cyfranogwyr y cyfarfod ac amser a dyddiad y cyfarfod.
- Yna cliciwch 'Send’.
- Bydd y cyfranogwyr hynny yn cael nodyn cais am gyfarfod a gallant ddewis 'Accept' neu 'Decline'.
Sut ydw i'n ymuno â chyfarfod Skype for Business?
Adeg y cyfarfod Skype for Business, mae tair ffordd o ymuno:
- Dewis 1: Ar yr ap Skype for Business, cliciwch ar y botwm 'Meeting' ac yna cliciwch ddwywaith ar y cyfarfod yr hoffech ymuno ag ef.
- Dewis 2: Agorwch y cais am gyfarfod yn eich calendr Outlook a chliciwch ar 'Join Skype Meeting'.
- Dewis 3: Cliciwch ar 'Join Online' pan fydd y neges atgoffa am y cyfarfod yn ymddangos.
Sylwch: Os nad oes Skype for Business gan gyfranogwyr y cyfarfod, gofynnir iddynt lawrlwytho ategyn gwe a fydd yn caniatáu iddynt ymuno â'r cyfarfod.
Diweddarwyd y dudalen: 20/03/2020 10:54:07