Equipment
Er mwyn gwneud y gorau o Skype for Business ar eich cyfrifiadur, bydd angen gwe-gamera a chlustffonau arnoch a fydd yn eich galluogi chi i wneud y gorau o'ch galwadau fideo a sain.
Sylwch: Mae eisoes gan liniaduron, iPads ac iPhones gamera, meicroffon ac unedau sain yn rhan ohonynt felly os ydych yn defnyddio'r dyfeisiau hyn, nid oes angen prynu offer ychwanegol. Fodd bynnag mae'n bosibl y byddwch yn dymuno prynu clustffonau ar gyfer eich gliniadur er mwyn cynnal galwadau annibynnol.
Os ydych yn dymuno prynu'r offer isod, gofynnwch i'ch Llofnodwr Awdurdodedig gofnodi galwad gyda'r Ddesg Gymorth TG, a bydd angen côd cost cyn y gellir cyflwyno'r archeb.
Diweddarwyd y dudalen: 29/07/2020 14:24:45