Sefydliadau wedi'u ffedereiddio
Mae cysylltiadau o sefydliadau sydd wedi'u ffedereiddio yn gallu defnyddio holl nodweddion Skype for Business.
Sut ydw i'n ychwanegu cyswllt o un o'n sefydliadau sydd wedi'u ffedereiddio?
- Teipiwch y cyfeiriad e-bost llawn (er enghraifft ‘ASWalters@pembrokeshire.gov.uk’) y mae'n nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer Skype for Business yn y blwch chwilio.
- Pan fydd y cyswllt yn ymddangos yn y rhestr isod, de-gliciwch arno a chliciwch ar 'Add to Contacts List', yna dewiswch y grŵp cyswllt yr hoffech ychwanegu'r cyswllt ato.
- Nawr, gallwch fynd i'r cyswllt yn y grŵp cysylltiadau rydych wedi'i ychwanegu ef/hi ato a defnyddio'r holl nodweddion Skype for Business.
Dyma restr o'n sefydliadau presennol sydd wedi'u ffedereiddio:
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Sir Benfro
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont at Ogwr
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor RCT
- Cyngor Abertawe
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Hwb
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Vodafone
- Cynulliad Cymru
- ERW (Ein Rhanbarth ar Waith)
- Cyngor Sir Ynys MÔn
- Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Capita
- Heddlu De Cymru
- Coleg Sirgar
- Heddlu Dyfed Powys
- Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Justice Department
Sut gallaf i wneud cais i ni ffedereiddio â sefydliadau eraill?
Os oes sefydliadau eraill yr hoffech i ni ffedereiddio â nhw, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG gan nodi enw'r sefydliad ac enw cyswllt er mwyn i ni gysylltu â nhw.
A allaf i ddefnyddio Skype for Business gyda sefydliadau allanol nad ydym wedi'u ffedereiddio â nhw?
Gallwch ond ni fydd gennych yr holl nodweddion sydd ar gael ar gyfer sefydliadau sydd wedi'u ffedereiddio. Er mwyn dysgu sut i gynnal Cyfarfodydd dros y Cyfrifiadur gyda chysylltiadau allanol, darllenwch ein Canllawiau ‘Setting Up Virtual Meetings’.
Diweddarwyd y dudalen: 29/07/2020 14:23:41