Diweddariadau Nodweddion Windows 10
Pam mae angen i ni osod diweddariadau nodweddion?
Mae Microsoft yn rhyddhau "Diweddariad Nodweddion" yn rheolaidd ar gyfer Windows 10 er mwyn gwella perfformiad, diweddaru meddalwedd a rhoi sylw i unrhyw faterion diogelwch. Fel arfer, mae'r rhain yn digwydd bob 6 mis ac fel rhan o'n cytundeb trwyddedu â Microsoft mae disgwyl i ni gadw at safon benodol. Byddwn yn dechrau cyflwyno'r nodweddion diweddaraf cyn bo hir er mwyn diweddaru holl ddyfeisiau Windows 10, gyda'r bwriad o ddiweddaru bob blwyddyn wedi hynny.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Cyn hir bydd diweddariad ar gael yn y 'Software Centre', bydd hwn ar gael i chi ei osod yn eich amser eich hun. Gan ddibynnu ar eich cyflymder rhyngrwyd wrth weithio o bell gall gymryd hyd at 2 awr ond yn aml mae'n llawer cyflymach, felly paratowch i redeg hyn yn ystod amser pryd na fydd angen eich dyfais arnoch chi. Rydym yn argymell eich bod yn gweithredu'r diweddariad cyn i chi adael am y diwrnod. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm "install" a chloi (peidiwch ag allgofnodi) eich dyfais.
Sut y bydd diweddariadau nodweddion yn cael eu gosod yn awtomatig
Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn targedu dyfeisiau Windows fesul safle lle mae angen y diweddariad dan sylw, gyda hyn byddwch yn gweld, os cysylltwch â'r rhwydwaith ar unrhyw safle corfforaethol, y bydd y diweddariad yn cael ei lawrlwytho'n dawel yn y cefndir.
Ar ôl lawrlwytho'r diweddariad i'ch dyfais, byddwch yn derbyn neges yn eich annog i ailgychwyn y ddyfais er mwyn cymhwyso'r newidiadau (byddem yn eich cynghori i ailgychwyn eich dyfais ar ddiwedd y dydd er mwyn caniatáu i'r newidiadau gael eu cymhwyso).
Sut i osod y diweddariad yn eich amser eich hun
1. Agorwch y 'Software Centre' drwy glicio ar yr eicon ar eich bwrdd gwaith, a chlicio ar "Updates".
2. Darllenwch y rhybudd, a phan fyddwch yn barod, cliciwch ar "Install".
3. Bydd y 'Software Centre' yn lawrlwytho'r ffeiliau angenrheidiol ac yn dechrau ar y gwaith uwchraddio. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall ar ôl gwneud hwn.
Diweddarwyd y dudalen: 21/08/2020 16:27:59