Rhaglen Sefydlu a Datblygu Aelodau
Llongyfarchiadau ar gael eich ethol i Gyngor Sir Caerfyrddin. Fel Cynghorydd mae gennych nifer o rolau a chyfrifoldebau pwysig i’w cyflawni.
Efallai eich bod yn meddwl: “Beth allai ddigwydd os...:
- …… nad wyf yn siŵr beth yw fy nghyfrifoldebau cyfreithiol neu foesegol?
- …… nad wyf yn gwybod â phwy i gysylltu am faterion penodol?
- …… gofynnir imi gyfrannu at gyfarfod?
- …… gofynnir imi am berfformiad y Cyngor?
- …… nad wyf yn siŵr sut mae’r Cyngor yn gwneud penderfyniadau?
- …… nad wyf yn siŵr pa adran sy’n gwneud beth?
- …… gofynnir imi wasanaethu ar bwyllgor?”
Caiff yr holl gwestiynau hyn a mwy eu hateb gan y Rhaglen Sefydlu/Gloywi i Gynghorwyr Sir Gaerfyrddin, ac i sicrhau ein bod yn ymdrin â'r pynciau iawn yn y rhaglen mae swyddogion y rhaglen wedi gweithio'n agos gydag arweinwyr y grwpiau i'w datblygu.
Er bod y rhaglen wedi’i llunio’n bennaf ar gyfer Cynghorwyr newydd mae hefyd yn agored i Gynghorwyr sydd wedi cael eu hailethol. Ei nod yw rhoi gwybodaeth a chyngor i wneud eich rôl fel Cynghorydd mor effeithiol a buddiol â phosibl yn y dyddiau cynnar a thu hwnt. Caiff y rhaglen gynhwysfawr ei darparu i gyd-fynd â'ch amserlen brysur ac i roi digon o wybodaeth a dealltwriaeth i roi dechrau da ichi wrth ichi fod yn un o Gynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin.
Dymunaf bob llwyddiant ichi yn eich rôl newydd a chofiwch fod swyddogion y Cyngor yma i’ch helpu i gyflawni’r rôl hon.
Mark James
Y Prif Weithredwr
Diweddarwyd y dudalen: 26/07/2019 10:07:10