Cadw Pellter Cymdeithasol
Ar 7 Ebrill 2020, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i bob cyflogwr sicrhau ei fod yn cymryd camau rhesymol fel y gall ein staff gynnal pellter corfforol o 2 fetr yn y gweithle. Yn syml, mae'n golygu bod pobl yn aros yn ddigon pell oddi wrth ei gilydd fel na all y coronafeirws ledaenu o un person i'r llall.
Cadw pellter cymdeithasol yn y gwaith
Anogir staff i lynu wrth y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn y gwaith ac rydym yn cymryd pob cam posibl i ddiogelu staff sy'n parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Gellir cael mwy o wybodaeth am Gadw Pellter Cymdeithasol a'r hyn y mae'n ei olygu i chi yma
Diweddarwyd y dudalen: 15/12/2020 17:39:52