Bitesize - Darparu Adborth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Unrhyw un sydd am ddysgu sut i roi adborth clir, negyddol a chadarnhaol.

Beth yw'r amcanion?

  • Deall buddion adborth priodol
  • Deall 4 rheol syml ar gyfer rhoi adborth
  • Strwythuro sgwrs er mwyn rhoi adborth
  • Ystyried sut i ddarparu hyn o bell

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Drwy roi adborth rheolaidd i'ch tîm byddwch yn datblygu cyfathrebu da a pharhaus. Dyma rai o’r manteision:

  • Bydd sgyrsiau anodd yn dod yn haws
  • Bydd perthnasoedd yn gwella
  • Bydd amcanion a therfynau amser yn cael eu bodloni 

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1.5 awr

Cost:

Dim cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.