Bitesize - Defnyddio'r dull hyfforddi wrth gynnal sgwrs

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Unrhyw un sydd am ddysgu sut i ddefnyddio dull hyfforddi wrth gynnal sgwrs.

Beth yw'r amcanion?

  • Beth yw dull hyfforddi
  • Pam y dylid defnyddio dull hyfforddi
  • Datblygu sgiliau craidd
  • Nodi cyfleoedd lle byddai defnyddio sgwrs am hyfforddiant yn briodol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae'r gallu i ddechrau — a chynnal — sgwrs am hyfforddiant yn sgil arweinyddiaeth drawsffurfiol. Drwy hyfforddi, rydych yn helpu pobl i fod yn fwy hunanymwybodol. Rydych chi'n troi profiadau yn gyfleoedd dysgu. Rydych yn atgyfnerthu cryfderau ac yn archwilio heriau.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1.5 awr

Cost:

Dim cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.