Bitesize - Gosod Amcanion Perthnasol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rheolwyr sydd am ddeall manteision darparu eglurder o ran rolau a chyfrifoldebau.

Beth yw'r amcanion?

  • Pam y dylid gosod amcanion
  • Canlyniadau peidio â gosod amcanion
  • Sut i osod amcanion
  • SMART
  • Pa mor aml?

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Heb amcanion sut ydyn ni'n

  • gwybod beth rydym ni'n gyfrifol amdano?
  • gweithio i gapasiti llawn?
  • cynnal sgyrsiau am hyfforddiant? 

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1.5 awr

Cost:

Dim cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.