Bitesize - Ymddiriedaeth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae YMDDIRIEDAETH yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom chwarae rhan ynddi os ydym am weithio mewn tîm llawn ymddiriedaeth. Felly, mae'r rhaglen hon ar gyfer pob un ohonom!

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gwybod y canlynol:

  • Beth mae'n ei olygu i weithio mewn tîm sy'n ymddiried yn ei gilydd
  • Sut y gellir meithrin Ymddiriedaeth
  • Beth all dorri Ymddiriedaeth
  • Pa weithgareddau allwch chi gymryd rhan ynddynt i feithrin Ymddiriedaeth

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae YMDDIRIEDAETH yn meithrin dealltwriaeth ac ymagwedd at waith sy'n grymuso aelodau'r tîm i gyfrannu a thyfu'n llawn heb ofni methu.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1.5 awr

Cost:

Dim cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.