Cymorth ar-lein gyda'r Gymraeg
Dyma amrywiaeth o ddeunyddiau ar-lein a all helpu i ddatblygu eich hyder a sgiliau i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.
Help ar-lein gyda’ch Cymraeg
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am ddatblygu cyrsiau a rhaglenni Cymraeg amrywiol. Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth am gyrsiau yn eich ardal, gan gynnwys darpariaeth mewn dosbarth, darpariaeth ar-lein a chyfuniad o’r rhain.
Mae'r wefan hefyd yn darparu adnoddau ar-lein i gynorthwyo'ch dysgu presennol yn ogystal â gwybodaeth am wahanol grwpiau sgwrsio sy'n digwydd o’ch cwmpas.
Er mwyn sicrhau lle ar y cyrsiau hyn bydd angen:
- Dod o hyd i gwrs ar www.dysgucymraeg.cymru
- Creu cyfrif a chofrestr
- Anfon manylion eich cwrs dewisedig at Ddysgu a Datblygu, ag yna cwblhau'r ffurflen gais ar-lein i gefnogi’r ariannu ar gyfer eich hyfforddiant
Say Something In Welsh
Mae SaySomethingInWelsh yn adnodd dysgu ar-lein sydd â’r nod o helpu pobl i siarad a deall Cymraeg.
Mae gwahanol gyrsiau ar gael sy’n addas i ddysgwyr, o ddechreuwyr i lefel canolradd, ac mae’r ddarpariaeth yn amrywio o 6 munud y dydd i gyrsiau dwys sy’n para 6 mis. Mae hefyd yn bosibl lawrlwytho'r ap a/neu'r ffeiliau MP3 am ddim i wrando ar yr iaith yn eich amser eich hunan.
S4C
Mae S4C yn sianel deledu Gymraeg sy'n darlledu amryw o raglenni trwy gydol y dydd yn Gymraeg, gyda'r opsiwn o ddefnyddio is-deitlau. Mae'r rhaglenni teledu hefyd ar gael ar-lein am 30 diwrnod ar y cyfleuster 'dal i fyny'.
Mae gan S4C ardal ar-lein ar gyfer dysgwyr sy’n amlinellu'r rhaglenni, y cyfryngau cymdeithasol a’r gefnogaeth arall y maent yn eu cynnig.
Ewch i sianel Dysgu Cymraeg S4C ar YouTube i wylio amryw o fideos byr i'ch helpu chi a'ch Cymraeg.
Radio Cymru
Gorsaf radio Cymru Gymraeg yw sy’n cynnwys sioeau siarad a cherddoriaeth. Mae mwy o gerddoriaeth ar gael trwy Radio Cymru 2.
Apton.cymru
Gwasanaeth ffrydio yw hwn yn benodol ar gyfer cerddoriaeth gan labeli Cymraeg.
Mae dros 10,000 o draciau heb unrhyw hysbysebu. Gallwch lawrlwytho'r ap neu wrando i Apton.cymru ar-lein.
BBC Cymru Fyw
Mae BBC Cymru Fyw yn darparu newyddion am ddim yn Gymraeg. Darllenwch y newyddion lleol a chenedlaethol diweddaraf. Gallwch ddefnyddio'r offeryn 'vocab', sy'n darparu cyfieithiadau ar unwaith o eiriau Cymraeg heb i chi orfod gadael y wefan.
Amdani
Yn unol â lefelau a chwricwlwm y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae cyfres o 20 o lyfrau Amdai wedi'u cyhoeddi sy’n addas ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys lefelau mynediad, sylfaen, canolradd ac uwch.
Parallel.Cymru
Mae'r Parallel.Cymru yn cynnig llawer o wybodaeth am ddysgu Cymraeg gan gynnwys amryw o erthyglau i ddysgwyr a siaradwyr rhugl.
Mae hefyd amryw o e-lyfrau ar Apple Books, Google Books a'r Kindle. Edrychwch ar y wefan hon am ragor o wybodaeth.

Cysill a Cysgeir
Mae Cysgeir yn eiriadur, ac mae meddalwedd gwirio gramadeg Cysill ar gael ar y mwyafrif o gyfrifiaduron staff CCC. Os nad oes gennych y cyfleuster hwn, cysylltwch â TG.
Mae Cysill hefyd ar gael ar-lein am ddim
Mae geiriaduron eraill ar-lein yn ynnwys Geiriadur a Geiriadur Academi
BBC Bitesize
Gellir defnyddio BBC Bitesize Gymraeg fel offeryn gwych i ddysgwyr sy’n oedolion hefyd.
Atebol
Apps, gapiau, gemau a llyfrau
Mae Atebol wedi creu amryw o apiau sydd wedi'u hanelu at siaradwyr Cymraeg ar bob lefel. Ewch i'ch siop apiau i chwilio am yr apiau canlynol gan Atebol:
- Anagramau iaith gyntaf
- Anagramau ail iaith
- Sillafu iaith gyntaf
- Sillafu ail iaith
- Amser
- Brawddegau iaith gyntaf
- Brawddegau ail iaith
Maent hefyd yn gwerthu ystod eang o gemau a llyfrau ar-lein.
Diweddarwyd y dudalen: 10/11/2020 12:48:34