Cyrsiau Iaith Gymraeg
Lefel 1 - Croeso Cymraeg Gwaith
Gallwch chi gyflawni Cymraeg lefel 1 trwy gwblhau un o'r pum cwrs Cymraeg Gwaith ar-lein. Rhennir mewn i 10 uned sydd yn eich galluogi i gwblhau o wahanol ddyfeisiau electronig, a'u teilwriwyd o gwmpas y pum maes canlynol:
Drwy ddewis un o'r uchod, gallwch gynyddu'ch dealltwriaeth o'r Gymraeg. Mi ddylech fod yn gallu dechrau a chloi sgwrs yn Gymraeg wrth gyfarfod a chyfarch cydweithwyr, cwsmeriaid a phartneriaid gan ddefnyddio ymadroddion Cymraeg.
Lefel 2 - Mynediad
Ar gyfer dechreuwyr sydd wedi cwblhau Lefel 1, gyda’r pwyslais ar siarad yr iaith. Darperir y cyrsiau hyn gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi er mwyn cwblhau'r cyrsiau hwn:
- Mynediad Dwys: 30 wythnos (4 awr yr wythnos)
- Mynediad 1 + 2: 60 wythno (2 awr yr wythnos)
- Mynediad Combi: Ar-lein (3 awr) Dosbarth (3 awr) yr wythnos
- Cwrs Bloc: 13 wythnos, 5 diwrnod yr wythnos (llawn amser)
Lefel 3 - Sylfaen
Os ydych wedi cwblhau Lefel 2, bydd y cyrsiau hwn yn parhau i ehangu'ch sgiliau siarad.
Darperir y cyrsiau hyn gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi er mwyn cwblhau'r cyrsiau hwn:
- Sylfaen Dwys: 30 wythnos (4 awr yr wythnos)
- Sylfaen 1 + 2: 60 wythnos (2 awr yr wythnos)
- Sylfaen Combi: Arlein (3 awr) Dosbarth (3 awr) yr wythnos
Mae cyrsiau preswyl hefyd ar gael.
Lefel 4 - Canolradd
Os ydych wedi cwblhau Lefel 3, bydd y cyrsiau hwn yn canolbwyntio ar siarad, gan gyflwyno ysgrifennu, darllen a gwrando.
Darperir y cyrsiau hyn gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi er mwyn cwblhau'r cyrsiau hyn:
- Canolradd Dwys: 30 wythnos (4 awr yr wythnos)
- Canolradd 1 + 2: 60 wythnos (2 awr yr wythnos)
Mae cyrsiau preswyl hefyd ar gael.
Lefel 5 - Uwch
Os ydych wedi cwblhau Lefel 4, bydd y cwrs hwn yn cryfhau sgiliau ysgrifenedig a siarad.
Darperir y cyrsiau hyn gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi er mwyn cwblhau'r cyrsiau hyn:
- Uwch 1 - 4: 30 wythnos (4 awr yr wythnos)
- Uwch Dwys 1 + 2: 60 wythnos (2 awr yr wythnos)
Sgiliau Cymraeg Ysgrifenedig - Cwrs Ar-lein
Mae Dysgu Cymraeg wedi lansio cwrs ar-lein ar gyfer siaradwyr Cymraeg i gynyddu hyder a datblygu sgiliau Cymraeg ysgrifenedig. Iaith gwaith a ddefnyddir yn y cwrs hwn.
Ni chymerith hirach na 10 awr i chi ei chwblhau a gallwch ei cwblhau ar eich ffon, tabled neu cyfrifiadur.
Say Something in Welsh (SSiW) - Cwrs dwys 6 mis
Cyflwynir y cwrs hwn ar-lein yn unig ac mae'n honni ei fod yn helpu dysgwyr i fod yn siaradwyr Cymraeg hyderus o fewn 6 mis, sy'n golygu y gallech gyrraedd lefel 3 y Cyngor Sir.
Diweddarwyd y dudalen: 25/09/2019 14:21:07