Cyrsiau Preswyl Cymraeg Gwaith
Cyrsiau preswyl i wella hyder a magu sgiliau
Mae cyrsiau preswyl Cymraeg Gwaith ar gael i ddysgwyr ar lefel Canolradd – Hyfedredd a siaradwyr Cymraeg di- hyder, i wella a magu sgiliau Cymraeg i’w defnyddio yn y gwaith.
Mae nifer fawr o gyflogwyr yng Nghymru eisoes wedi manteisio ar y cyfle i anfon eu staff ar y cyrsiau, ac roedd 94% o ddysgwyr a fynychodd gwrs preswyl Cymraeg Gwaith yn 2017-18 yn ‘cytuno’ neu’n ‘cytuno’n gryf’ eu bod yn fwy hyderus yn eu sgiliau Cymraeg o ganlyniad i’r cwrs.
Cynhelir y cyrsiau preswyl pum niwrnod mewn pedwar lleoliad yng Nghymru:
- Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn
- Gwesty Coed y Mwstwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- Gwesty Llechwedd Hall ym Mhontypridd
- Castell Aberteifi
- Mae’r cynnig hwn yn gyfle unigryw i drochi eich hun mewn awyrgylch Cymraeg ac mae’n cynnwys bwyd, llety a’r adnoddau dysgu.
Amserlen ar gyfer cyrsiau 2018 -2019Ffurflen Gais Ar-Lein
Diweddarwyd y dudalen: 10/11/2020 12:48:34