Sgiliau Recriwtio a Dethol

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Rheolwyr sy'n gyfrifol am recriwtio staff.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y rhaglen dyle chi gallu:

1. Deall y broses recriwtio yn CSG
2. Deall pwysigrwydd cywirdeb:

• Teitl swydd
• Disgrifiad swydd
• Manyleb person
• Hysbyseb Swydd
• Dewis y panel cywir

3. Integreiddio:

• Cyfle cyfartal
• Iaih Gymraeg

4. Ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â chael yr uchod yn anghywir
5. Deall canlyniadau'r rhagfarn isymwybodol
6. Datblygu sgiliau cyfweld - cwestiynu, gwrando

I gwrdd â'r amcanion hyn bydd y rhaglen yn ymdrin â'r canlynol:

  • Beth ddylai’i gwneud pan fydd gen i swydd wag
  • Ymagwedd ymarferol at ysgrifennu dogfennau recriwtio yn ymestyn drwy'r diwrnod cyfan
  • Problemau cyflogaeth posibl y dyfodol o ddogfennau anghywir
  • Y risgiau posibl o ragfarn isymwybodol

 

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs hwn yn datblygu sgiliau rheolwyr i sicrhau arfer da wrth Recriwtio a Dethol. Mae hefyd yn ofyniad y Polisi Recriwtio a Dethol bod o leiaf un aelod o'r panel recriwtio yn cael ei hyfforddi.

Hyd y cwrs:

1 ddiwrnod

Cost:

Dim tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.