Cwrs Hwylusydd Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Unrhyw un sy'n darparu hyfforddiant i staff ac sydd eisiau gwybod sut i wneud sesiynau dysgu ar-lein yn fwy deniadol.

Beth yw'r amcanion?

Yr amcanion

  • Deall sut i baratoi a chynllunio digwyddiadau rhithwir deniadol
  • Defnyddio ystod o dechnegau ac offer rhithwir i ymgysylltu cymaint â phosibl
  • Sut mae defnyddio eich Llais yn effeithiol
  • Cyfle i gyflwyno sesiwn fer gan ddefnyddio'r hyn rydych wedi'i ddysgu

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i ddeall pa sgiliau a gwybodaeth gefndir y bydd eu hangen arnoch i hwyluso sesiynau dysgu ar-lein byw llwyddiannus, cydweithredol a rhyngweithiol.

Hyd y cwrs:

2 awr y sesiwn

Cost:

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.