Cyflwyniad i Microsoft Teams

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Pob gweithiwr sy'n defnyddio Microsoft Teams fel rhan o'i rôl i gyfathrebu a chydweithio â'i dîm.

Gellir teilwra'r sesiynau hyn ar gyfer anghenion tîm penodol.

 

Beth yw'r amcanion?

  • Cael dealltwriaeth o'r hyn y gall Microsoft Teams ei gynnig, a sut y gall gefnogi cydweithio yn eich tîm.
  • Cael dealltwriaeth o sut mae cynllun tudalen Microsoft Teams yn gweithio, gan edrych ar y tabiau Gweithgaredd, Sgwrsio, Timau, Galwadau a Ffeiliau.
  • Deall sut i gyrchu gosodiadau ar eich proffil a sut i newid eich statws.
  • Deall sut i gymryd rhan mewn cyfarfodydd gan ddefnyddio'r bar cyfarfod i rannu fideo, tewi/dad-dewi, codi llaw, cyfrannu at banel sgwrsio a sut i ddefnyddio nodweddion cyfarfod ychwanegol.
  • Deall sut i gael cymorth ychwanegol yn y dyfodol os bydd ei angen, gan gysylltu â'r 'Fideos sut i...' a chanllawiau pellach ar Microsoft Teams.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Drwy ddeall sut mae Microsoft Teams yn gweithio, bydd yn datblygu eich hyder wrth ei ddefnyddio, ac yn eich galluogi i weithio'n fwy effeithlon. Bydd yn gwella cyfathrebu a chydweithio ar draws yr awdurdod.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.