Microsoft Excel - Canolradd
Microsoft Excel - Canolradd
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Pob aelod o staff sydd â gwybodaeth ymarferol sylfaenol o MS Excel sydd angen defnyddio nodweddion mwy cymhleth yn eu gwaith.
Beth yw'r amcanion?
Erbyn i chi gwblhau'r cwrs byddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- Rhewi Cwareli mewn taenlen
- Defnyddio Fformatio Amodol
- Mewnosod Sylw i Gell
- Defnyddio nodweddion mwy cymhleth – Mynegiad SUMIF, COUNTIF, COUNTA, IF
- Perfformio Trefnu Personol
- Defnyddio Cyfeirnod Cell Absoliwt
- Defnyddio'r nodweddion HLOOKUP a VLOOKUP
- Enwi Cwmpasau Celloedd
- Siartiau
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd y cwrs yn rhoi'r sgiliau i chi weithio ar lefel ganolraddol yn Excel.
Hyd y cwrs:
Un diwrnod
Cost:
£25 fesul person
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.
Diweddarwyd y dudalen: 31/01/2020 12:40:16