Gweithio ystwyth
Rydym ni yn ymdrechu i ddatblygu arferion gweithio modern sy’n eich helpu chi i gyflawni eich gwaith yng nghalon ein cymuned, gan eich galluogi ar yr un pryd i gynnal cydbwysedd rhwng gofynion bywyd a gwaith. Gwyddom fod perfformiad yn y gwaith yn well os ydych yn gallu bod â hyblygrwydd yn eich trefniadau gweithio, ac rydym ni am gefnogi hyn.
Nid yw Gweithio Ystwyth yn ymwneud â gweithio gartref, ond yn hytrach mae’n ymwneud â bod yn y lle y mae angen ichi fod er mwyn gwneud eich swydd yn y ffordd fwyaf effeithiol. Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio sut y gallwch weithio o unrhyw leoliad, boed yn un o adeiladau’r Cyngor, yn y gymuned, gartref neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.
Rydym ni am sicrhau nad yw gweithio mewn ffordd ystwyth yn golygu bod y modd y caiff gwasanaethau eu darparu’n dioddef mewn unrhyw ffordd. A dweud y gwir, rydym am ddarparu gwasanaeth gwell. Rydym hefyd am wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth ddisgwylir gennych pan fyddwch yn gweithio mewn ffordd ystwyth, i sicrhau tegwch ymhlith y staff a sicrhau bod trefniadau gweithio’n ddiogel. Mae’r polisi hwn yn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Mae gweithio ystwyth yn ymwneud â hyblygrwydd a chan hynny mae’n anodd cymhwyso set gadarn o reolau ar ei gyfer. Mae disgwyl ichi fynd i ysbryd y polisi hwn a chofio bod gweithio ystwyth yn dod â chyfrifoldeb i gydweithredu gyda’ch cydweithwyr a’ch rheolwr.
Gweithio ystwyth: Rhan o'r Rhaglen Trawsnewid Digidol
Diweddarwyd y dudalen: 11/11/2020 12:17:25