Siarter Sefydliadol
Bydd uwch-reolwyr CSC yn:
- Croesawu newid diwylliannol.
- Cytuno i herio prosesau sy’n rhwystr rhag gallu gweithio’n ystwyth.
- Gweithio ar sail adnoddau a rennir nad ydynt yn ‘eiddo i’ Adrannau neu unedau.
- Cynorthwyo staff a rheolwyr i weithio mewn ffordd ystwyth sy’n help i ddarparu gwell gwasanaethau.
- Darparu mannau ac adnoddau addas i staff i gyflawni’u rôl.
- Sicrhau, lle mae hynny’n bosibl, fod polisi desgiau clir yn cael ei fabwysiadu.
Fel rheolwr byddaf yn:
- Croesawu newid diwylliannol.
- Cytuno i herio prosesau sy’n rhwystr rhag gallu gweithio’n ystwyth.
- Ymddiried yn fy staff i gwblhau tasgau o fewn yr amserlen a’r targedau y cytunwyd arnynt.
- Darparu cynlluniau gwaith clir sy’n cyd-fynd â’r nodau a’r amcanion corfforaethol.
- Annog fy staff i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
- Rheoli a chefnogi staff i weithio mewn ffordd ystwyth.
- Peidio â neilltuo ystafell i fi fy hun yn awtomatig.
Fel gweithiwr byddaf yn:
- Croesawu newid diwylliannol.
- Cytuno i herio prosesau sy’n rhwystr rhag gallu gweithio’n ystwyth.
- Cymryd cyfrifoldeb am gyflawni fy amcanion personol o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
- Cytuno i gwblhau tasgau o fewn yr amserlenni a’r targedau y cytunwyd arnynt.
- Cadw fy nghalendr yn gyfredol ac ar agor i weddill y sefydliad.
- Sicrhau fy mod yn mewngofnodi ar Skype for Business bob dydd.
- Diweddaru fy mhresenoldeb fel bod fy rheolwr yn gwybod ble ydw i ac a oes modd cysylltu â fi.
- Sicrhau bod fy mhresenoldeb yn adlewyrchu’r hyn rydw i’n ei wneud ar unrhyw adeg.
- Clirio fy nesg ar ddiwedd pob diwrnod gan sicrhau bod unrhyw ddeunydd cyfrinachol wedi’i gadw’n ddiogel.
- Ceisio argraffu llai.
Diweddarwyd y dudalen: 22/02/2018 10:46:32