Gwerthoedd Craidd

Diweddarwyd y dudalen: 17/05/2023

Ein gwerthoedd yn ategu ac yn arwain ein ffordd o weithio, ein ffordd o wella a'n ffordd o wneud penderfyniadau yn ein cymuned.

Gwerthoedd craiddGweithio fel un tîm

Rydym yn cydnabod y gallwn wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ar gyfer ein cymunedau drwy gydweithio a chreu cysylltiadau adeiladol.

Canolbwyntio ar ein cwsmeriaid

Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yn ein cymunedau a dyma ein pwyslais a'n prif ddiben.

Gwrando er mwyn gwella

Byddwn yn ymgysylltu â'n cymunedau, ein partneriaid a'n holl randdeiliaid ac yn gwrando arnynt i lywio ein cynlluniau gwella.

Ymdrechu i ragori

Byddwn yn wyliadwrus ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni hyd eithaf ein gallu a'n bod bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella'r hyn a wnawn.

Gweithredu ag uniondeb

Byddwn yn meddwl am yr hyn sy'n iawn i'w wneud wrth ystyried y dewisiadau mewn sefyllfa waith.

Cymryd cyfrifoldeb personol

Byddwn ni i gyd yn ystyried sut yr ydym yn cefnogi'r gwerthoedd hyn a'u rhoi ar waith er mwyn iddynt ategu ac arwain ein ffordd o weithio.