Ionawr 2024

Diweddarwyd y dudalen: 15/01/2024

Ionawr 2024

I lawrlwythio eich calendr hunan-ofal mis Ionawr, cliciwch yma

DYDD LLUN DYDD MAWRTH DYFF MERCHER DYDD IAU DYDD GWENER DYDD SADWRN DYDD SUL
         

 

1

Rhowch sylwadau caredig i bawb rydych chi’n siarad â nhw heddiw

2

Cymerwch 5 munud i eistedd yn llonydd ac anadlu

3

Tacluswch ran o’r tŷ rydych wedi bod yn edrych arni ers amser hir

4

Gwrandewch yn weithredol ac yn fanwl ar eraill heb feirniadu

5

Cysgwch yn dda. Dim sgriniau cyn mynd i’r gwely

6

Gwrandewch ar eich hoff gerddoriaeth

7

Trefnwch i gwrdd â ffrindiau yn y flwyddyn newydd

8

Siaradwch â ffrind neu aelod o’r teulu rydych heb ei weld ers sbel

9

Peidiwch â chymharu sut rydych chi’n teimlo y tu mewn i sut mae pobl eraill yn ymddangos y tu allan

10

Rhowch ganiatâd i’ch hun i ddweud na

11

Meddyliwch am gamgymeriad rydych chi’n falch o’i wneud a pham

12

Talwch sylw pryd y byddwch yn llawdrwm ar eich hun a byddwch yn garedig

13

Maddeuwch eich hun pan fydd pethau’n mynd o’i le – mae pawb yn gwneud camgymeriadau

14

Gwnewch rywbeth caredig i’ch hun heddiw, rhywbeth rydych chi wir yn ei fwynhau

15

Meddyliwch am y flwyddyn a rhestrwch y pethau rydych yn ddiolchgar amdanynt

16

Cewch bath neu gawod boeth a chroesawu’r cynhesrwydd o’ch cwmpas

17

Bwytwch fyrbrydau a gwyliwch eich hoff ffilm

18

Edrychwch am agweddau da pobl eraill a sylwch ar eu cryfderau

19

Cynlluniwch rai gweithredoedd o garedigrwydd y byddwch yn eu gwneud yn 2024

20

Gwnewch ddiod twym i’ch hun a chymerwch amser i’w fwynhau

21

Cymerwch amser i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau

22

Rhannwch atgof hapus gydag anwylyd

23

Rhowch hwb i’ch meddwl a’ch corff drwy fod yn egnïol yn yr awyr agored

24

Darllenwch lyfr newydd neu dechreuwch ar lyfr llafar

25

Cofiwch yfed digon o ddŵr

26

Cymerwch gamau i fod yn garedig â natur a gofalu am ein planed.

27

Dewch o hyd i rywbeth i edrych ymlaen ato heddiw

28

Gwnewch rywbeth yn yr awyr agored, cerdded, rhedeg, ymlacio, archwilio.

29

Rhowch gynnig ar orsaf radio neu sioe deledu newydd.

30

Mwynhewch luniau o amser gydag atgofion hapus

31

Byddwch yn barod i rannu sut rydych chi’n teimlo, a gofynnwch am gyngor pan fydd angen

 

       

Cofiwch, mae’n iawn i beidio bod yn iawn
Mae’r dudalen Iechyd a Llesiant yn cynnig cyngor a chymorth, neu cysylltwch ag un o’ch Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gael sgwrs gyfrinachol.

 

Iechyd a Llesiant