Mawrth 2024

Diweddarwyd y dudalen: 27/02/2024

Mawrth 2024

DYDD LLUN DYDD MAWRTH DYDD MERCHER DYDD IAU DYDD GWENER DYDD SADWRN DYDD SUL
 

 

   

1

Adeiladu ar syniadau newydd.

2

Edrych am resymau newydd i fod yn obeithiol, hyd yn oed mewn cyfnod anodd.

3

Newid eich trefn arferol a gweld sut rydych chi'n teimlo.

4

Gwneud rhywbeth yn yr awyr agored, cerdded, rhedeg, ymlacio, crwydro.

5

Rhoi cynnig ar wrando ar orsaf radio newydd neu wylio sioe deledu newydd.

6

Gwneud rhestr o'r holl bethau yn eich bywyd sy'n rhoi llawenydd i chi a pharhau i ychwanegu ati

7

Rhannu'ch teimladau gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.

8

Gosod nod i chi'ch hun, gan gynnwys camau bach i gyrraedd y nod hwn.

9

Herio meddyliau negyddol.

10

Cymryd camau i fod yn garedig wrth natur a gofalu am ein planed.

11

Mynd i'r gwely yn gynnar.

12

Tynnu llun o rywbeth sy'n rhoi llawenydd i chi a'i rannu.

13

Creu rhestr chwarae o ganeuon rydych chi'n eu mwynhau.

14

Chwilio am ymadrodd tawel, cadarnhaol i'w ddefnyddio pan fyddwch chi'n teimlo'n isel.

15

Gwenu ar bobl rydych chi'n eu gweld.

16

Oedi, eistedd am 5 munud ac anadlu.

 

17

Trefnu 'egwyl te' rithwir gyda chydweithwyr neu ffrindiau.

18

Dwyn hoff atgof i'r cof.

19

Neilltuo amser i wneud dim byd heddiw.

20

Anfon neges galonogol at rywun na allwch chi fod gyda nhw.

21

Mynd allan, symud o gwmpas, a helpu i glirio eich meddyliau.

22

Cael bath â swigod neu gawod hir.

23

Bwyta'n ystyriol, gwerthfawrogi blas, arogl a theimlad eich bwyd.

 

24

Bod yn ymwybodol o'ch corff a sylwi ar yr hyn rydych chi'n ei deimlo.

25

Canolbwyntio ar y pethau da.

26

Anadlu'n ddwfn dair gwaith i ymdawelu ar adegau rheolaidd drwy gydol y dydd.

27

Gofyn i ffrind beth mae wedi'i fwynhau'n ddiweddar.

28

Rhyddhau amser drwy ganslo cynlluniau diangen.

29

Treulio amser gyda'ch anwyliaid.

30

Gwneud rhodd garedig i rywun.

31

Mwynhau eich hoff ddiod.

Cofiwch, mae’n iawn i beidio bod yn iawn
Mae’r dudalen Iechyd a Llesiant yn cynnig cyngor a chymorth, neu cysylltwch ag un o’ch Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gael sgwrs gyfrinachol.

I lawrlwytho eich calendr hunanofal mis Mawrth, cliciwch yma

Iechyd a Llesiant