Wythnos Llesiant Rheolwyr
Chwefror 8 - 12
Wrth i ni barhau i brofi newidiadau i'n bywydau personol a gwaith, mae'n bwysig bod ein hiechyd a'n llesiant yn aros yn sefydlog. Os nad ydym yn cefnogi ein llesiant ein hunain ac yn ystyried llesiant y rhai o'n cwmpas, ni fyddwn mewn sefyllfa dda i barhau i weithio'n effeithiol. Rydym yn deall nad yw hwn yn amser hawdd i reolwyr a hoffem atgoffa staff bod cymorth llesiant ychwanegol ar gael drwy eich Tîm Iechyd a Llesiant.
Fel rhan o'r cymorth hwn, bydd y tîm Llesiant Gweithwyr yn cynnal 'Wythnos Llesiant Rheolwyr' ym mis Chwefror eleni. Bydd amrywiaeth o sesiynau'n cael eu cyflwyno drwy gydol yr wythnos sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i gefnogi eich llesiant, eich cydnerthedd a'ch cymhelliant eich hun a'ch tîm.
Diweddarwyd y dudalen: 25/01/2021 12:30:07