Sesiynau Grŵp
Mae sesiynau grŵp yn fuddiol pan fo sefyllfa anodd yn cael effaith negyddol ar fwy nag un o'ch gweithwyr. Gall hyn fod mewn cyfnod o newid neu ansicrwydd, megis ailstrwythuro yn y sefydliad neu arolygiadau o fewn ysgolion, yn ogystal â digwyddiadau yn y gweithle.
Mae sesiynau grŵp yn ceisio rhoi'r sgiliau i'ch staff allu rheoli ac ymdopi'n well â'r profiadau anodd y gallent fod yn delio â nhw ar yr adeg honno.
Cyn cyflwyno cais am unrhyw sesiwn grŵp i chi a'ch tîm. Byddem yn eich annog i ddarllen y canlynol yn gyntaf:
[macroErrorLoadingPartialView]Oeddech chi'n gwybod bod llawer o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalu am eich llesiant eich hun a llesiant eich timau ar y tudalen Gofalu am eich llesiant.
Os ydych yn credu y byddai sesiwn grŵp o fudd i'ch tîm, cyflwynwch ffurflen gais isod. Gofynnwn i chi ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn i'n hymarferwyr greu sesiwn bwrpasol ar eich cyfer chi a'ch staff.
Gellir gweld yr holl gostau ar gyfer sesiynau Grŵp ar ein tudalen Ffioedd, neu os mai ysgol ydych, nodir y rhain yn eich dogfen Cytundeb Lefel Gwasanaeth.
Diweddarwyd y dudalen: 13/10/2020 09:20:00