Bwyta'n dda.
Mae bwyta deiet da yn rhan bwysig o gadw'n iach, a gall eich helpu i deimlo ar eich gorau, yn feddyliol ac yn gorfforol.
Yn y gweithle, mae maeth da yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng diwrnod da a diwrnod gwael – bydd bwyta prydau bwyd rheolaidd sy'n llawn maeth yn helpu i gynnal eich egni corfforol a meddyliol, cadw eich hwyliau'n sefydlog a rheoli eich straen. Gall deiet iach ac amrywiol hefyd eich diogelu rhag mân anhwylderau megis annwyd neu gyflyrau tymor hir mwy difrifol megis canser y coluddyn.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyngor ynghylch bwyta'n iach ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Dylai pobl sydd ag anghenion deietegol arbennig neu sydd â chyflwr meddygol ofyn i ddoctor neu ddeietegydd cofrestredig am gyngor.
Bwyta deiet iach a chytbwys
Mae hyn yn golygu bwyta amrywiaeth eang o fwydydd, a bwyta'r gyfran a'r swm cywir o fwyd a diod er mwyn sicrhau a chynnal pwysau corff a meddwl iach. Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dangos y dylai pobl geisio gwneud y canlynol er mwyn cael deiet cytbwys ac iach:
- Bwyta o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd (gweler 5 y Dydd)
- Seilio prydau bwyd ar fwydydd llawn startsh a ffeibr megis tato, bara, reis neu basta
- Cael ychydig o gynnyrch llaeth neu ddewisiadau llaeth eraill (megis diodydd soia)
- Bwyta ychydig o ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill
- Dewis olewau a thaeniadau heb ddŵr, a bwyta dognau bach ohonynt
- Yfed digon o ddiodydd (o leiaf 6 neu 8 gwydraid y dydd)
Os ydych yn cael bwydydd a diodydd sy'n uchel mewn braster, halen a siwgr, sicrhewch eich bod yn cael y rhain yn llai aml ac mewn dognau bach.
Bwyta'n dda yn y gwaith
Dyma rai cynghorion ynghylch ceisio cynnal deiet iach yn y gwaith:
[macroErrorLoadingPartialView]Diweddarwyd y dudalen: 18/06/2020 12:20:32