Dolenni cyflym yr asiantaeth cymorth
Siarad am eich problemau yw un o’r ffyrdd allweddol o fynd i’r afael â straen. Pa un a yw eich straen yn gysylltiedig â gwaith ai peidio, mae peidio â rheoli’r symptomau’n golygu yr effeithir ar y ddwy ran o’ch bywyd.
Os ydych chi’n teimlo bod arnoch angen cymorth siaradwch gyda’ch rheolwr, eich meddyg teulu neu siaradwch gyda rhywun yr ydych yn teimlo’n gyfforddus yn siarad gydag ef neu gyda hi. Gallai atgyfeiriad at ein Gwasanaeth Cymorth Llesiant fod o fudd ichi. Fodd bynnag, mae dosbarthiadau, grwpiau a deunyddiau darllen a allai eich helpu i ddod o hyd i dechnegau ymdopi effeithiol hefyd.
Gall ein Gweithdai Rheoli Straen yn y Gweithle helpu rheolwyr i adnabod arwyddion sy'n awgrymu bod straen yn broblem.
Gweler isod nifer o ddolenni cyflym a fydd yn mynd â chi'n syth at yr asiantaethau cymorth sydd eu hangen arnoch. Fodd bynnag rydym bob amser yn pwysleisio, os ydych chi'n teimlo ar unrhyw adeg bod eich iechyd meddwl yn dirywio, cysylltwch â'ch meddyg teulu, y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau arferol, neu ewch i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn argyfwng iechyd meddwl.

Remploy
Mae Remploy yn darparu cymorth cyflogaeth a sgiliau arbenigol i bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd.

IAWN
Mae'r Wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol (LPMHSS) yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

GIG111
Mae gwasanaeth 111 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a gallwch ei ddefnyddio i gael gwybodaeth a chyngor am iechyd ac i gael mynediad at ofal sylfaenol brys.

LLINELL GYMORTH CALL
Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru. Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol, sy'n cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth gyfrinachol Rhadffôn: 0800 132 737 Testun: 81066

Mind
Mae MIND yn rhoi cyngor a chymorth ac yn anelu at rymuso unrhyw un sy'n cael problem o ran iechyd meddwl. Llinell Ffôn Gymorth 0300 123 3393

GOFAL GALAR CRUSE
Mae Cruse yn cynnig cymorth dros y ffôn, e-bost a'r we. Llinell gymorth: 0808 808 167

Y SAMARIAID
Mae gan y Samariaid linell gymorth 24 awr: 116 123

BYW HEB OFN
Gall Byw Heb Ofn roi cymorth a chyngor i: unrhyw un sy’n dioddef cam-drin domestig unrhyw un sy'n adnabod rhywun sydd angen help

Education Support
Mae gan 'Education Support linell gymorth 24 awr: UK-wide: 08000 562 561 Txt: 07909 341229 Gwasanaeth dwyieithog a'r gael.
Diweddarwyd y dudalen: 13/10/2020 09:20:36