Helpu chi i helpu eich hunan
Hyfforddiant Rheoli Straen y GIG – Cwrs 6 wythnos rhad-ac-am-ddim
- Cewch ddysgu sut i wynebu eich ofnau
- Cewch ddysgu dulliau a fydd yn eich helpu i gysgu
- Cewch ddysgu sut i reoli eich hwyliau
- Cewch ddysgu sut i ymlacio
- Cewch ddysgu sut i reoli panig
- Cewch ddysgu sut i leihau eich straen
I gofrestru ar gyfer cwrs ffoniwch: 07816 064644/3, neu fel arall anfonwch neges e-bost i: Stress.Control-Registrations@wales.nhs.uk
Oherwydd y sefyllfa bresennol o ran COVID 19, nid oes dosbarthiadau grŵp ar gael ar hyn o bryd. Felly gallwch bellach gael mynediad at gwrs rhithwir, cliciwch isod am fwy o wybodaeth:
E-ddysgu
Gall Gwytnwch Personol fod yn allweddol o ran sut rydym yn ymdrin â sefyllfaoedd sy’n llawn straen neu’n anodd a bydd yn helpu unigolion i wella’u perfformiad yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u llesiant. Bwriad y modiwl yw eich cael chi i ddeall ac i feddwl am eich gwytnwch eich hun a sut y gellid ei wella.
Iechyd Meddwl yn y Gweithle
Gellir gweld y modiwlau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, ar wefan Dysgu Cymru.
Diweddarwyd y dudalen: 30/06/2020 16:41:53