Iechyd Meddwl
Mae iechyd meddwl, yn union fel iechyd corfforol, yn gyflwr sy'n effeithio ar bob un ohonom, ac mae'n rhywbeth y dylem feddwl amdano. Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn, ac mae ymchwil yn awgrymu y bydd 1 o bob 4 ohonom yn profi iechyd meddwl gwael mewn unrhyw flwyddyn. Mae salwch meddwl yn cyfeirio at ystod eang o gyflyrau sy'n effeithio ar eich hwyliau, eich meddwl a'ch ymddygiad. Ymhlith enghreifftiau o gyflyrau iechyd meddwl y mae anhwylderau gorbrder, iselder, sgitsoffrenia, anhwylderau deubegynol, anhwylderau bwyta ac ymddygiadau caethiwus.
Achosion Iechyd Meddwl Gwael
Gall amryw o achosion fod yn gyfrifol am broblemau iechyd meddwl. Yn achos nifer o bobl, mae'n debygol fod cyfuniad o ffactorau yn gyfrifol. Gall y rhain fod yn fiolegol, yn seicolegol neu'n amgylcheddol. Mae rhai enghreifftiau o achosion iechyd meddwl gwael yn cynnwys:
- Trawma, esgeulustod neu gamdriniaeth yn ystod plentyndod
- Profedigaeth
- Ynysu cymdeithasol neu unigrwydd
- Straen difrifol neu hirdymor
- Cyflwr iechyd corfforol hirdymor
- Pryderon ariannol, diweithdra, colli swydd
- Anfantais gymdeithasol, tlodi neu ddyled
- Bod yn ofalwr am amser hir
- Trawma sylweddol pan yn oedolyn
- Anawsterau mewn perthynas neu ysgariad
- Trais domestig, camdriniaeth neu fwlio
- Achosion corfforol fel anaf i'r pen neu gyflwr niwrolegol
Gall ffordd o fyw hefyd effeithio ar eich iechyd meddwl megis gwaith, diet, diffyg cwsg, alcohol a chyffuriau. Ond fel rheol, mae problem iechyd meddwl yn deillio o ffactorau eraill hefyd.
Iechyd Meddwl yn y Gweithle
Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ail-lofnodi addewid Amser i Newid Cymru i ddangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi llesiant meddyliol ein holl weithwyr a lleihau stigma iechyd meddwl yn y gweithle.
Mae'r Awdurdod yn gwneud ymdrechion parhaus i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gweithwyr o iechyd meddwl a straen. Mae hefyd yn darparu arweiniad a chefnogaeth i reolwyr a gweithwyr i adnabod arwyddion a symptomau iechyd meddwl gwael, ac yn datblygu dull cyson o reoli iechyd meddwl a straen yn y gweithle.
O ble y gallaf i gael cymorth?
Os ydych chi'n teimlo bod angen cymorth ychwanegol arnoch chi ar gyfer unrhyw faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl neu straen, gweler ein tudalennau straen, hunangymorth a chefnogaeth a Gwasanaeth Cymorth Llesiant.
Diweddarwyd y dudalen: 09/07/2020 08:48:23