OneDrive
Gyriant U (Ffolder Cartref) - Mudo Data
Bydd y Gwasanaethau TGCh yn mudo data'r holl ddefnyddwyr sydd ar y Gyriant U o storfa leol i Microsoft OneDrive yn dechrau ddydd Gwener 24 Gorffennaf am 6pm.
Beth yw Microsoft OneDrive?
Mae OneDrive yn rhan o gyfres o gynhyrchion Office 365, mae'n darparu storfa ar-lein ac all-lein ar gyfer dogfennau cysylltiedig â gwaith ac ni ddylid ei defnyddio i storio ffeiliau nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith. Dim ond chi sydd â mynediad i'r man storio hwn, a bydd yn disodli eich Gyriant U presennol (Ffolder Cartref).
Yn gryno, dylech weithio gyda'ch OneDrive newydd yn yr un ffordd ag yr ydych yn defnyddio eich Gyriant U ar hyn o bryd.
Pam symud i OneDrive?
Y broses o fudo data defnyddwyr i OneDrive yw'r cam nesaf yn ein taith tuag at ddefnyddio'r llu o nodweddion sy'n gysylltiedig ag Office 365. Yn ogystal â newid ein storfa ffeiliau draddodiadol, bydd OneDrive yn cyflwyno swyddogaethau newydd, fel y gallu i wneud y canlynol:
- Gweithio'n hyblyg – Er mai dim ond ar eich cyfrifiadur/gliniadur oedd modd cyrchu dogfennau ar y Gyriant U yn draddodiadol, bydd data OneDrive ar gael o unrhyw ddyfais gorfforaethol sy'n golygu, os oes gennych ddyfais symudol neu lechen Apple neu Android corfforaethol, gallwch weld a gweithio ar eich dogfennau unrhyw le.
- Cydweithio - Byddwch yn gallu rhannu a chydweithio ar ddogfennau gyda defnyddwyr yn uniongyrchol o'ch cyfrif OneDrive. Lle y byddech yn draddodiadol wedi gorfod symud y ffeil i ffolder a rennir ar Gynllun Ffeiliau'r Cyngor neu ei hanfon ar e-bost at gydweithiwr.
- Cadw eich data'n ddiogel - Bydd awtogadw a hanes fersiynau wedi'u galluogi ar gyfer unrhyw ddogfennau Microsoft a gedwir ar OneDrive, sy'n golygu na fydd yn rhaid i chi boeni am gadw dogfen a gallwch adfer dogfennau o fersiynau lluosog fel sy'n gyfleus i chi.
Y CAMAU SY'N OFYNNOL: Sut y bydd y broses fudo yn effeithio arna i?
1. Dylai OneDrive eisoes bod wedi'i galluogi ar eich dyfais, a chyn mudo, awgrymir eich bod yn ymgyfarwyddo â'r lleoliad. Gellir dod o hyd i OneDrive drwy File Explorer (lle byddech fel arfer yn pori ffeiliau ar eich system) ar yr ochr chwith (OneDrive – Cyngor Sir Caerfyrddin).
Os nad yw OneDrive ar gael ar eich dyfais, cofnodwch alwad gyda'r Ddesg Gymorth TG - https://ictselfservice.carmarthenshire.gov.wales
2. Bydd eich data ar y Gyriant U yn cael ei fudo ddydd Gwener 24 Gorffennaf am 6pm a bydd yn cael ei gwblhau dros y penwythnos, mae hon yn broses awtomatig. Bydd eich data sydd wedi'i fudo mewn ffolder "U:Drive Data" yn eich OneDrive.
3. O'r pwynt hwn ymlaen dylech weithio o'ch OneDrive, bydd eich ffolder Gyriant U yn newid i ffolder "darllen yn unig" – sy'n golygu na fyddwch yn gallu newid unrhyw ffeiliau sy'n bodoli eisoes neu greu rhai newydd.
4. Ar 28 Awst, bydd y llwybr byr i'ch ffolder Gyriant U yn cael ei ddileu.
Dyma ganllawiau pellach ar ddefnyddio OneDrive.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG. (https://ictselfservice.carmarthenshire.gov.wales)
Diweddarwyd y dudalen: 24/07/2020 15:54:54