Cynlluniau Argyfwng
Diweddarwyd y dudalen: 11/05/2023
Mae argyfyngau'n digwydd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi dioddef tywydd gaeafol eithafol, llifogydd, tarfu ar deithio, diffyg tanwydd, clefydau ymysg anifeiliaid, a'r pandemig COVID-19.
Mae'r Llywodraeth wedi rhoi deddfwriaeth statudol ar waith i'n helpu i wynebu'r her o ymdrin ag argyfyngau o'r fath.
Y Cefndir
Yn dilyn yr argyfwng tanwydd a'r llifogydd difrifol yn yr hydref a'r gaeaf yn 2000 a Chlwy’r Traed a’r Genau yn 2001, cyhoeddodd y Llywodraeth adolygiad o drefniadau cynlluniau argyfwng. Roedd yr adolygiad yn cynnwys ymarfer ymgynghori cyhoeddus a oedd yn cyfnerthu casgliad y Llywodraeth nad oedd y ddeddfwriaeth bresennol yn rhoi fframwaith digonol bellach ar gyfer ymdrechion diogelwch sifil modern a bod angen deddfwriaeth newydd.
Yn sgil hyn cyflwynwyd y Bil Argyfyngau Sifil i'r Senedd ar 7 Ionawr 2004. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ar 18 Tachwedd 2004 ac o hynny ymlaen cafodd ei adnabod fel Deddf Argyfyngau Sifil 2004 (y "Ddeddf").
Trosolwg ar y Ddeddf
Rhennir y Ddeddf yn ddwy ran sylweddol:
- Rhan 1: yn canolbwyntio ar drefniadau lleol ar gyfer diogelwch sifil, gan sefydlu fframwaith statudol o reolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymatebwyr lleol.
- Rhan 2: yn canolbwyntio ar bwerau brys, gan sefydlu fframwaith modern ar gyfer defnyddio mesurau deddfwriaethol arbennig a allai fod yn angenrheidiol i ymdrin ag effeithiau'r argyfyngau mwyaf difrifol.
Rhan allweddol o foderneiddio'r ddeddfwriaeth bresennol yw diweddaru'r hyn a olygir gan "argyfwng".
Diffinio Argyfwng
Mae diffiniad argyfwng yn y Ddeddf yn canolbwyntio ar ganlyniadau argyfyngau. Yn y ddeddf, diffiniad argyfwng yw:
- digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i les dynol;
- digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i’r amgylchedd; neu
- rhyfel, neu derfysgaeth, sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch.
Oherwydd bod Awdurdodau Lleol yn cael eu cynnwys fel Ymatebwyr "Categori 1" ynghyd â'r Gwasanaethau Brys, Cyrff Iechyd ac Asiantaethau'r Llywodraeth, mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â chwe "dyletswydd" o dan y Ddeddf.
Y rhain yw:
- Asesu'r risg o argyfyngau a defnyddio hyn i lywio cynlluniau wrth gefn;
- Rhoi cynlluniau argyfwng ar waith;
- Rhoi trefniadau Rheoli Parhad Busnes ar waith;
- Rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd am faterion diogelwch sifil a chynnal trefniadau i rybuddio, hysbysu a chynghori'r cyhoedd os bydd argyfwng;
- Rhannu gwybodaeth ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu ac effeithlonrwydd;
- Cydweithredu ag ymatebwyr lleol eraill i wella cydgysylltu ac effeithlonrwydd;
Cymunedau'n Trechu Terfysgaeth
Rydym yn falch o gefnogi Ymgyrch ACT – Gweithredu i Drechu Terfysgaeth Plismona Gwrthderfysgaeth i annog y cyhoedd i helpu'r heddlu i fynd i'r afael â therfysgaeth ac achub bywydau drwy roi gwybod am unrhyw ymddygiad a gweithgaredd amheus.
Mae'r bygythiad terfysgol yn parhau, a bellach mae'n bwysicach nag erioed fod pawb – gan gynnwys staff y Cyngor – yn cyfrannu at fynd i'r afael â therfysgaeth. Gallai ein gweithredoedd achub bywydau.
Yn yr un modd â throseddwyr eraill, mae angen i derfysgwyr gynllunio. Os ydych yn clywed rhywbeth anarferol neu amheus, dilynwch eich greddf a GWEITHREDWCH drwy roi gwybod yn gyfrinachol ar gov.uk/ACT. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.