Bwrdd Trawsnewid Digidol
Cafodd Grŵp Llywio Trawsnewid Digidol TIC ei sefydlu ym mis Medi 2016, ac mae'n cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd. Pwrpas y Grŵp Llywio yw ysgogi rhaglen waith Trawsnewid Digidol a sicrhau bod prosiectau TIC presennol yn cael eu halinio. Mae'r Rhaglen Trawsnewid Digidol yn cwmpasu 5 phrosiect TIC presennol:
- Newid sianeli
- Gweithio ystwyth
- Prosesau mewnol
- Prosesau ariannol
- Rheoli gwybodaeth
Bydd yn hybu dull gweithredu mwy cydgysylltiol o ran y meysydd hyn. Mae'r Grŵp Llywio Trawsnewid Digidol yn riportio i Fwrdd Rhaglen TIC.
Mae gan y rhaglen waith eang ac uchelgeisiol hon botensial i greu newid sylweddol ledled y sefydliad. Drwy gyflwyno dulliau mwy clyfar o weithio, gall yr Awdurdod gynnig gwasanaeth mwy effeithlon ac effeithiol i'n trigolion.
Bydd rhan ganolog gan y timau TGCh a Marchnata a'r Cyfryngau mewn unrhyw ymagwedd sy'n ceisio hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg. Gan fod yr angen am ddefnyddio technoleg a chymorth digidol yn sylweddol, mae'n bwysig bod yr adnoddau hyn yn cael eu cyfeirio at y meysydd a fydd yn cael yr effaith fwyaf.
Diweddarwyd y dudalen: 30/07/2019 09:30:50