Ennillwyr Gwobrau TIC 2018
Cafodd pum tîm buddugol eu cydnabod yng Ngwobrau TIC eleni.
Yn y digwyddiad, sydd bellach yn cael ei gynnal am yr ail flwyddyn, derbyniodd pob un o’r pum tîm, sef Tîm y Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion, Tîm y We, y Tîm Rheoli Plâu, y Tîm Anghenion Cymhleth a’r Tîm Makerspace, dystysgrif wedi’i fframio am eu llwyddiannau wrth gyflawni prosiectau a oedd yn adlewyrchu Trawsnewid I Wneud Cynnydd.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo arbennig at gyfer yr enillwyr a arweiniwyd gan y Prif Weithredwr, yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ddydd Mercher, 3 Hydref.
Cafodd llwyddiannau pob prosiect eu harddangos yn ystod y digwyddiad ar ffurf astudiaethau achos drwy gyfrwng fideo, a chafwyd cyflwyniad byr gan bob tîm cyn i’r Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros TIC, gyflwyno’r tystysgrifau iddynt.
Derbyniodd y Tîm Makerspace blac arbennig hefyd, wedi’i noddi gan We are Lean and Agile, fel Enillydd y Brif Wobr am lwyddiant ei brosiect. Pwysleisiodd y tîm sut yr oedd wedi llwyddo I fywiogi llyfrgelloedd ledled Sir Gaerfyrddin a sut y mae wedi symud i ffwrdd o’r meddylfryd traddodiadol ac wedi rhoi arloesedd a chreadigrwydd ar waith yn eu cymunedau.
Roedd y prosiect hefyd yn dangos bod y ddwy adran yn cydweithio ac yn sgil hynny bod y tîm Anghenion Cymhleth wedi cael budd o ymgysylltu â gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain.
Yn ogystal â hyn, cyflwynwyd tystysgrifau hefyd i’r aelodau staff Simon Williams, Sue Watts, Les James, Alex Machin, Alan Howells, Julie King a Stuart Willis, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r Tîm TIC, ac wedi llwyddo i gwblhau cwrs ‘Gwella’n Barhaus i Ymarferwyr’ Academi Cymru.
Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Gwobrau TIC yn ffordd wych o ddathlu llwyddiannau a chyflawniadau ein staff ac I ddangos ein bod yn gallu llwyddo drwy waith caled, ymrwymiad, creadigrwydd a thrwy
gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor: “Fel yr aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar gyfer TIC ers iddo ddechrau, bûm yn ffodus iawn i weld y gwaith anhygoel a wneir fel rhan o’r rhaglen TIC. Y llynedd, cymerodd gwobrau TIC gamau mawr I godi proffil y gwaith trawsnewid sydd wedi’i wneud a bydd enillwyr y gwobrau eleni hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at y gwaith o godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau cadarnhaol sy’n cael eu gwneud ar draws ystod o wasanaethau.” Llongyfarchiadau i bawb.
Gweld astudiaethau achos fideo o'r holl brosiectau buddugol isod:
- Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion
- Gwasanaeth Cwesmeriaid Digidol
- Gwasanaeth Dydd I Bobl Ag Anableddau Dysgu
- Rheoli Plâu
- Stordy Creadigol
Diweddarwyd y dudalen: 17/07/2019 15:07:27