Incwm a Masnacheiddio

Diweddarwyd y dudalen: 20/09/2023

Chris Moore - Cyfarwyddwr y Gwasanaethu Cofforeathol

Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.

  • Annog proses o ddatblygu diwylliant ac ymagwedd fwy masnachol ar draws y sefydliad er mwyn cynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir gan y Cyngor.
  • Sicrhau bod gan y Cyngor sgiliau a galluoedd digonol i gefnogi’r ymagwedd hon.
  • Sicrhau bod ffïoedd a thaliadau gwasanaethau yn adlewyrchu costau darparu’r gwasanaeth hwnnw oni bai fod achos busnes yn datgan fel arall
  • Adnabod y potensial i gynhyrchu mwy o incwm trwy gael mwy o bobl i ddefnyddio gwasanaethau
  • Cynnig eglurder o ran y defnydd o ostyngiadau a chymorthdaliadau.
  • Adolygu polisïau casglu incwm y Cyngor i sicrhau y caiff incwm ei gasglu yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Adolygu cyfleoedd i gynyddu incwm o hysbysebu a nawdd.
  • Adnabod mwy o gyfleoedd cynhyrchu incwm trwy werthu gwasanaethau’r Cyngor i gyrff eraill yn y sectorau cyhoeddus/preifat tra’n sicrhau ei fod yn
  • cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol perthnasol.
  • Cryfhau prosesau adennill dyledion ymhellach a sicrhau bod capasiti digonol i adennill y lefelau uchaf posib o ddyledion.

Meysydd Prosiect

Beth rydym yn ei wneud

Strategaeth Fasnachol
  • Datblygu Strategaeth Fasnachol i'r cyngor i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu mentrau creu incwm newydd.
Adennill costau
  • Gweithio gydag adrannau i ddeall cost wirioneddol darparu eu gwasanaeth i sicrhau y gellir pennu ffioedd a thaliadau i adennill costau yn llawn, lle bo hynny'n briodol.
Hysbysebu a Noddi
  • Mae Cynllun Noddi Cylchfannau yn cael ei roi ar waith ar hyn o bryd. Bydd y cynllun hwn yn darparu cyfleoedd i sefydliadau allanol noddi arwyddion hysbysebu ar gylchfannau dynodedig ledled y sir.
  • Archwilio'r opsiynau sydd ar gael i gynnig pecynnau ehangach o nawdd a hysbysebu gwerth uchel.
  • Ymhlith y meysydd cychwynnol i'w hystyried mae – cysgodfannau bysiau, meysydd parcio, arwyddion wrth ymyl y ffordd, arwyddion pyrth.
Adennill Dyledion
  • Cefnogi'r gwaith o foderneiddio prosesau'r tîm Dyledwyr i hwyluso symud o brosesu i adennill dyledion yn rhagweithiol. Mae arwyddion cynnar treialu buddsoddi i arbed yn dangos bod yr ymagwedd ragweithiol yn cael effaith sylweddol ar y gyfradd adennill dyledion.

Pwrpas trawsnewid yw gwella er mwyn bod yn sefydliad modern, arloesol, a deinamig yr ydym i gyd eisiau gweithio iddo.  Os oes gennych chi unrhyw syniadau am ffyrdd o wneud rhywbeth o fewn y cyngor hyd yn oed yn well, rhowch wybod i ni, mae pob syniad yn cael ei groesawu, mae trawsnewid i bawb. Os ydych yn teimlo y gallai eich adran elwa o fod yn rhan o un o'n prosiectau presennol, cysylltwch â ni i ddechrau ar eich taith drawsnewid gyda ni.