Caerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen: 30/11/2023

Yng Nghaerfyrddin mae gennym ystafelloedd cyfarfod/hyfforddiant yn Neuadd y Sir3 Heol SpilmanCanolfan Hamdden CaerfyrddinLlyfrgell CaerfyrddinCanolfan Addysg Caerfyrddin a Pharc Myrddin. Porwch drwy ein hystafelloedd cyfarfod ym mhob lleoliad am ragor o wybodaeth ynglŷn â'u maint a'u cyfleusterau.

Sut mae archebu ystafell

Defnyddir Outlook i archebu ystafelloedd. Gallwch weld beth sydd ar gael a threfnu eich cyfarfod yn gyflym ac yn hwylus. Mae gan yr holl ystafelloedd cyfarfodydd a hyfforddiant eu hunaniaeth eu hunain yng nghalendr Outlook. I ddod o hyd i ystafell cyfarfodydd yn llyfr cyfeiriadau Outlook, mae gan bob ystafell "Meeting Room" o'i blaen ac yna ei lleoliad ac enw'r ystafell.

Yr unig gyfleusterau cyfarfod na ellir eu harchebu drwy ddefnyddio’r dull hwn yw’r ystafelloedd canlynol yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin:-

  • Siambr y Cyngor
  • Ystafell Bwyllgor 1 (Cyn ystafell Bwyllgor Gwasanaethau
  • Democrataidd, Llawr Cyntaf)
  • Ystafell Bwyllgor 2 (Cyn ystafell gyfarfod Adfywio, Llawr Cyntaf)
  • Ystafell Bwyllgor 3, Llawr gwaelod
  • Ystafell Bwyllgor 4, Llawr gwaelod
  • Ystafell Bwyllgor 5, Llawr gwaelod

Gofynnir ichi archebu’r rhain drwy gysylltu’n uniongyrchol â’r Uned Gwasanaethau Democrataidd i sicrhau bod gofynion aelodau etholedig yn cael blaenoriaeth.

Hefyd, rhoddir blaenoriaeth i aelodau etholedig ar gyfer yr ystafelloedd hyn a bydd unrhyw drefniadau archebu yn amodol ar eu gofynion. Mewn rhai adeiladau lle darperir yr ystafelloedd cyfarfod yn fasnachol, fe fydd archebion masnachol yn cael blaenoriaeth bob amser.

Lle bo'n bosibl, defnyddiwch ystafelloedd sy'n gweddu o ran maint i'r niferoedd a fydd yn bresennol. Cofiwch hefyd fod gan y rhan fwyaf o ystafelloedd gysylltiadau TG a cheir cyfarpar cyfrifiadurol mewn rhai ohonynt, felly mae modd eu harchebu ar gyfer gweithio ystwyth fel nad oes angen teithio’n ôl i'r man gweithio arferol pan fyddwch yn gweithio y tu hwnt i'ch swyddfa.

Sut i ganslo ystafell

Os oes angen canslo cyfarfod cofiwch wneud hyn drwy Outlook. Bydd hyn yn hysbysu gweinyddwr yr ystafell yn ogystal â'r mynychwyr eraill i gyd. Trwy wneud hyn bydd modd i'r ystafell fod ar gael i eraill ei defnyddio.