Llandeilo

Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2023

Yn Llandeilo mae gennym ystafelloedd cyfarfod/hyfforddiant yn y Neuadd Ddinesig. Porwch drwy ein hystafelloedd cyfarfod ym mhob lleoliad am ragor o wybodaeth ynglŷn â'u maint a'u cyfleusterau.

Sut mae archebu ystafell

Archebir ystafelloedd drwy ddefnyddio Outlook a gallwch wirio pa ystafelloedd sydd ar gael a threfnu eich cyfarfod yn gyflym ac yn hwylus. Mae gan bob ystafell gyfarfod ac ystafell hyfforddiant eu hunaniaeth eu hunain ar galendr Outlook. Er mwyn dod o hyd i ystafell gyfarfod yn llyfr cyfeiriadau Outlook, rhoddwyd "Ystafell Gyfarfod" o flaen lleoliad ac enw pob un.

Bydd angen ichi archebu’n uniongyrchol ar gyfer ystafelloedd cyfarfod yn y Neuadd Ddinesig. Rhoddir gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud hyn yng ngwybodaeth pob ystafell.

Mewn rhai adeiladau lle darperir yr ystafelloedd cyfarfod yn fasnachol, fe fydd archebion masnachol yn cael blaenoriaeth bob amser.

Lle bo'n bosibl, defnyddiwch ystafelloedd sy'n gweddu o ran maint i'r niferoedd a fydd yn bresennol. Cofiwch hefyd fod gan y rhan fwyaf o ystafelloedd gysylltiadau TG a cheir cyfarpar cyfrifiadurol mewn rhai ohonynt, felly mae modd eu harchebu ar gyfer gweithio ystwyth fel nad oes angen teithio’n ôl i'r man gweithio arferol pan fyddwch yn gweithio y tu hwnt i'ch swyddfa.

Sut i ganslo ystafell

Os oes angen canslo cyfarfod cofiwch wneud hyn drwy Outlook. Bydd hyn yn hysbysu gweinyddwr yr ystafell yn ogystal â'r mynychwyr eraill i gyd. Trwy wneud hyn bydd modd i'r ystafell fod ar gael i eraill ei defnyddio.