Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Dwyll (17-23 Tachwedd)
1 diwrnod yn ôl
Fel Cyngor, mae gennym agwedd dim goddefgarwch at bob math o dwyll, arferion llwgr a dwyn, oddi mewn i’r Cyngor ac o ffynonellau allanol.
Nid yw twyll yn drosedd lle nad oes neb yn dioddef, a gall effeithio arnom ni i gyd.
Mae'n cael effaith ariannol, gan gostio biliynau o bunnoedd y flwyddyn i'r wlad, a hefyd mae'n effeithio ar faint o arian sydd gennym ar gael i'w wario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ogystal â'r gost ddynol - er enghraifft, mae rhywun sy'n cyflawni Twyll Tenantiaeth Tai Cyngor yn lleihau nifer y lleoedd tai sydd ar gael gan amddifadu teuluoedd a phobl agored i niwed sydd ar y rhestr aros.
Mae gan y Cyngor Swyddog Ymchwilio i Dwyll sydd wedi'i hyfforddi'n broffesiynol i gynnal ymchwiliadau sifil a throseddol yn ymwneud ag atal a datrys troseddau, erlyn troseddwyr ac adennill enillion troseddau. Os hoffech i'r Swyddog Ymchwilio i Dwyll godi ymwybyddiaeth o dwyll yn eich tîm, e-bostiwch fraud@sirgar.gov.uk
Os ydych chi'n amau bod unigolyn neu gwmni yn cyflawni twyll yn erbyn y Cyngor, rhowch wybod amdano drwy anfon e-bost i fraud@sirgar.gov.uk