Ymunwch â'r ymgyrch i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben

1 diwrnod yn ôl

Fel Cyngor, rydym yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn eleni, sy'n dechrau ddydd Llun, 25 Tachwedd ac sy'n parhau am 16 Diwrnod o Weithredu.  

Mae thema bwerus eleni “Mae’n Dechrau gyda Dynion” yn rhoi sylw i'r rôl bwysig iawn y mae dynion yn ei chwarae wrth atal trais yn erbyn menywod a merched drwy hybu parch a chydraddoldeb yn eu cymunedau. I ddysgu mwy, ewch i https://www.whiteribbon.org.uk/wrd24

Er bod cam-drin domestig yn effeithio ar y ddau ryw, mae'r nifer fwyaf o ddigwyddiadau treisgar yn cynnwys dynion yn erbyn menywod

Beth mae'r Cyngor yn ei wneud?  

I ddangos ein cefnogaeth, byddwn yn chwifio baner y Rhuban Gwyn yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin a Neuaddau’r Dref yn Llanelli a Rhydaman ac yn goleuo Neuadd y Sir ar 25 Tachwedd.

Byddwch hefyd yn gweld arbedwr sgrin ymgyrch Rhuban Gwyn ar eich gliniadur gwaith sy’n gofyn ichi wneud yr addewid “i beidio byth â defnyddio, esgusodi neu aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod”.

Byddwch hefyd yn sylwi ar bosteri yn ein hadeiladau a'n gorsafoedd bysiau neu negeseuon fideo ar y sgriniau yn ein llyfrgelloedd, canolfannau Hwb a chanolfannau hamdden. 

Beth allwch chi ei wneud?  

Gwnewch yr Addewid Rhuban Gwyn: i beidio byth â defnyddio, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. 

Dewch yn Gynghreiriad: Gall dynion fod yn gynghreiriaid gweithredol trwy ddysgu, gwrando ar a chefnogi menywod a merched.

Dewch yn Llysgennad neu Hyrwyddwr: Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol yn eich gweithle a'ch cymuned, cofrestrwch i ddod yn llysgennad neu hyrwyddwr Rhuban Gwyn.  Mae Carl Daniels, Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden, wedi bod yn Llysgennad Rhuban Gwyn ers pum mlynedd. Dywedodd: “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ymgyrch hanfodol sy’n tynnu sylw at fater pwysig iawn sef trais yn erbyn menywod a merched. Fel Llysgennad y Rhuban Gwyn, gŵr a thad, rwyf wedi ymrwymo i gefnogi’r achos hwn a hyrwyddo amgylcheddau diogel a chynhwysol i bawb yn ein cymuned.”

Mae Carmarthen Domestic Abuse Servies Ltd (CarmDas) yn gofyn i ddynion a bechgyn ymuno â thaith gerdded fer drwy dref Caerfyrddin ddydd Llun, Tachwedd 25 am 1.30pm gan ddechrau o Neuadd y Dref a gorffen yn Rhodfa'r Santes Catrin, lle bydd lluniaeth ar gael.

Mae croeso i bawb i Hwb Busnes Sir Gaerfyrddin am goffi, te, a chacen ar ôl y daith gerdded. Bydd cyfle hefyd i weld drama ddogfen 15 munud wedi'i chreu a'i chynhyrchu gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin. Bydd ‘Codi Llais yn erbyn Trais’ yn cael ei lansio’n swyddogol gan Gyfarwyddwr Addysg a Phlant y Cyngor, Owain Lloyd.

Mae’r Cyngor Ieuenctid yn gobeithio y bydd y DocuDrama yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr proffesiynol i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc eraill ei bod hi’n iawn i siarad ac y bydd yn rhoi sicrwydd iddynt fod cymorth ar gael iddynt os byddant yn adrodd am unrhyw gam-drin domestig y maent yn ei weld neu’n ei brofi.

Gwyliwch y DocuDrama yma

Cadwch lygad am lythyr newyddion yr wythnos nesaf, a fydd yn sôn am y cymorth, y gefnogaeth a’r arweiniad sydd ar gael i’n holl staff.