Ion
16
2024

Aildrefnu - Clwb Clebran gyda Gareth Davies

Mae'r Clwb Clebran yn croesawu chwaraewr y Scarlets a Chymru sef Gareth Davies ar ddydd Mawrth, Ionawr 16 am 12.30pm.

Ymunwch â ni ar Microsoft Teams wrth i ni edrych yn ôl ar Gwpan y Byd a chael y cyfle i ddysgu rhagor am hanes a gyrfa Gareth.

Bydd Gareth, sy'n wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn ac sydd wedi ennill 74 o gapiau dros Gymru, yn sgwrsio gydag Hywel Thomas o Actif yn ystod y digwyddiad.

Os oes gennych gwestiwn i Gareth, defnyddiwch y swyddogaeth 'sgwrsio' yn ystod y sesiwn neu anfonwch e-bost - iaithgymraeg@sirgar.gov.uk cyn dydd Llun nesaf.

Mae'r Clwb Clebran yn gyfle i chi glywed a siarad Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Gallwch ymuno â'r dolen yma

 

  • Pryd: 12.30pm
  • Ble: Microsoft Teams