Iechyd a Llesiant

Diweddarwyd y dudalen: 03/04/2024

Ystyr llesiant yw ‘bod yn gyffyrddus, yn iach neu’n hapus’, ond mae llesiant yn llawer ehangach na hyn ac mae’n brofiad eang sy’n cwmpasu pob agwedd ar fywyd. Gan ein bod ni'n treulio cyfran sylweddol o'n bywydau yn gweithio, mae gofalu am ein llesiant yn y gweithle yn bwysig iawn.

Mae llesiant yn y gweithle yn ymwneud â phob agwedd ar fywyd gwaith, megis diogelwch a chysur ein hamgylchedd corfforol, y boddhad a'r mwynhad yr ydym yn eu profi yn ein swydd a faint o gefnogaeth yr ydym yn ei chael yn ein sefydliad.

Mae gweithlu hapus ac iach yn hanfodol i unrhyw sefydliad sy'n ffynnu a dyna pam yr ydym yn parhau i flaenoriaethu llesiant ein holl staff, p'un a ydych chi'n gweithio ym maes gwasanaethau rheng flaen, yn y swyddfa neu'n gweithio o bell.

Mae'r adran hon yn amlinellu ein dull gweithredu i gefnogi eich llesiant corfforol a'ch llesiant meddyliol yn ogystal â chynnig atebion ymarferol â ffocws i reolwyr. Wrth wneud hynny, ein nod yw helpu i amddiffyn ein gweithlu a'r Awdurdod yn y dyfodol agos a'r tymor hir.

Iechyd a Llesiant